Awdures Seisnig oedd Carla Lane OBE (ganwyd Roma Barrack; 5 Awst 192831 Mai 2016)[1] a oedd yn gyfrifol am ysgrifennu sawl comedi sefyllfa ar deledu yn cynnwys The Liver Birds (1969-78), Butterflies (1978-82), a Bread (1986-91).[2]

Carla Lane
Ganwyd5 Awst 1928 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mai 2016 Edit this on Wikidata
Mossley Hill Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethsgriptiwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Roma Barrack yn West Derby, Lerpwl.[3][4] Gwasanaethodd ei thad Gordon De Vince Barrack, a anwyd yng Nghaerdydd,[5][6] yn y llynges fasnach. Aeth i ysgol gwfaint, ac yn 7 oed, enillodd wobr ysgol am farddoni.[7] Fe'i magwyd yn West Derby ac yna Heswall.[8] Gadawodd ysgol yn 14 oed, a gweithiodd yn y byd nyrsio.[1] Yn ôl ei hunangofiant, fe briododd yn 17 oed a chafodd ddau fab erbyn yr oedd yn 19 oed,[7] er bod cofnodion swyddogol yn dangos ei bod yn 19 pan briododd.[4]

Gyrfa ysgrifennu golygu

Yn y 1960au roedd hi'n ysgrifennu straeon byrion a sgriptiau radio. Daeth ei llwyddiannau cyntaf mewn cydweithrediad â Myra Taylor, a gyfarfu mewn gweithdy awduron yn Lerpwl, cyn iddi gychwyn ar ei gyrfa unigol. Fe fyddai Carla a Myra yn cyfarfod yn aml yng Ngwesty Adelphi yng nghanol dinas Lerpwl i ysgrifennu.[9]

Lles anifeiliaid golygu

 
Ynys Tudwal Fach (blaendir), sy'n nodedig am ei fywyd gwyllt

Roedd Lane wedi bod yn lysieuwraig ers 1965 ac yn ymroddedig i ofal a lles anifeilaid,[1] Ffurfiodd ymddiriedolaeth yr "Animal Line" yn 1990 gan Carla gyda'i ffrindiau Rita Tushingham a Linda McCartney.[1] Yn 1991, prynodd Ynys Tudwal Fach ar arfordir Llŷn, i amddiffyn ei fywyd gwyllt.[1]

Yn 1993, fe addasodd dir ei phlasdy, "Broadhurst Manor" yn Horsted Keynes, Sussex, mewn i warchodfa anifeiliad 25 erw.[9] Rhedodd y warchodfa am 15 mlynedd cyn gorfod cau oherwydd cyfyngiadau ariannol.[10] Yn 2002 danfonodd Lane ei OBE yn ôl i'r prif weinidog ar y pryd, Tony Blair mewn protest am greulondeb i anifeiliaid.[11] Yn 2013, agorwyd gwarchodfa anifeiliaid "Carla Lane Animals In Need centre", yn ei henw, yn Melling, Glannau Merswy.[12]

Bywyd hwyrach a marwolaeth golygu

Cyhoeddodd ei hunangofiant, Someday I'll Find Me: Carla Lane's Autobiography, yn 2006. Bu farw Lane yng nghartref nyrsio Stapley yn Lerpwl ar 31 Mai 2016.[11]

Cyfresi teledu golygu

  • 1969-78, 96 - The Liver Birds (gyda Myra Taylor ac eraill)
  • 1971-76 - yn Bless This House (gyda Myra Taylor ac eraill)
  • 1974 - No Strings
  • 1975 - Going, Going, Gone... Free?
  • 1977 - Three Piece Suite
  • 1978-83, 2000 - Butterflies
  • 1981-83 - The Last Song
  • 1981-82 - Solo
  • 1984-85 - Leaving
  • 1985-87 - The Mistress
  • 1985-86 - I Woke Up One Morning
  • 1986-91 - Bread
  • 1992 - Screaming
  • 1993-94 - Luv
  • 1995 - Searching

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Carla Lane, television scriptwriter – obituary". The Daily Telegraph. 1 Mehefin 2016. Cyrchwyd 1 Mehefin 2016.
  2. Carla Lane dead: The Liver Birds and Bread creator who returned OBE dies aged 87 (en) , The Independent, 31 Mai 2016.
  3. "Roma Barrack: Births". FindMyPast.co.uk. Cyrchwyd 31 Mai 2016.
  4. 4.0 4.1 "Roma Barrack: Marriage record". FindMyPast.co.uk. Cyrchwyd 31 Mai 2016.
  5. "Gordon Barrack: Births". FindMyPast.co.uk. Cyrchwyd 31 Mai 2016.
  6. "Barrack/Foran: Marriages". FindMyPast.co.uk. Cyrchwyd 31 Mai 2016.
  7. 7.0 7.1 Carla Lane (31 October 2006). Someday I'll Find Me: Carla Lane's Autobiography. Robson Books. ISBN 18-61059736.
  8. "Liver Birds and Bread creator Carla Lane has died aged 87". Liverpool Echo. 31 Mai 2016. Cyrchwyd 31 Mai 2016.
  9. 9.0 9.1 Ellen, Barbara (16 Tachwedd 2008). "Going to a good home". The Observer. Cyrchwyd 31 Mai 2016.
  10. Thompson, Jody. "Carla Lane forced to close her animal rescue centre". Mirror.co.uk. Cyrchwyd 1 Mehefin 2016.
  11. 11.0 11.1 "Television sitcom writer Carla Lane dies, aged 87". BBC News. 31 Mai 2016. Cyrchwyd 31 Mai 2016.
  12. Hewett, Emily (7 Medi 2015). "Bread writer Carla Lane opens £315k special care unit at animal sanctuary". Daily Mail. Cyrchwyd 1 Mehefin 2016.

Dolenni allanol golygu