Jean III de Grailly
Cadfridog yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Lloegr a Ffrainc oedd Jean III de Grailly, captal de Buch (bu farw 7 Medi 1376). Roedd yn gefnder i Gownt Foix, ac yn arweinydd milwrol amlwg, yn cefnogi brenin Lloegr yn erbyn brenin Ffrainc. Ystyriai'r croniclydd Jean Froissart fel esiampl ddelfrydol o sifalri.
Jean III de Grailly | |
---|---|
Jean III de Grailly yn cael ei gymeryd yn garcharor gan Bertrand du Guesclin yn Mrwydr Cocherel | |
Ganwyd | 1330 |
Bu farw | 7 Medi 1376 Paris |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
Galwedigaeth | condottieri, person milwrol |
Tad | Jean I de Grailly |
Mam | Blanca de Foix |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Bu ganddo ran bwysig ym muddugoliaeth y Saeson ym Mrwydr Poitiers yn 1356 fel arweinydd y marchogion. Yn 1364 gorchfygwyd ef gan Bertrand du Guesclin ym Mrwydr Cocherel, a'i gymeryd yn garcharor. Wedi ei ryddhau y flwyddyn ddilynol, ochrodd gyda Siarl V, brenin Ffrainc am gyfnod, ond yn fuan newidiodd ei ochr i gefnogi brenin Lloegr eto. Yn 1367 roedd gyda'r Tywysog Du yn Sbaen.
Yn 1372, ymosododd y Ffrancwyr ar La Rochelle, oedd ym meddiant y Saeson. Roedd y Captal yn arwain byddin Seisnig oedd yn ceisio codi'r gwarchae, ond wrth iddo geisio codi'r gwarchae ar Soubise, ymosodwyd ar ei fyddin gan fyddin Ffrengig dan arweiniad Owain Lawgoch, a'i cymerodd ef a Syr Thomas Percy, seneschal Poitou, yn garcharorion. Treuliodd y Captal y gweddill o'i fywyd yn garcharor ym Mharis, gan ei fod yn cael ei ystyried yn rhy beryglus i'w ryddhau.