Jean René Cruchet

Meddyg Ffrengig oedd Jean René Cruchet (21 Mawrth 18751959). Astudiodd yn Bordeaux cyn iddo dderbyn ei ddoethuriaeth ym 1902 a dod yn Chef de clinique médicale. Ym 1907 daeth yn Médecin des hôpitaux in 1907 a wnaed yn ddarlithydd. Ym 1920 daeth yn athro patholeg a therapi gyffredin, ac ym 1926 wnaed yn gadair paediatreg ym Mhrifysgol Bordeaux.[1] Cruchet oedd y cyntaf i sylwi ar enseffalitis lethargica (a elwir hefyd yn glefyd Cruchet) ymhlith milwyr Ffrengig yn Verdun yng ngaeaf 1915–6, blwyddyn cyn i Constantin von Economo cyhoeddi llyfr ar yr afiechyd.[2] Ymysg ei brif feysydd eraill oedd spasmodic torticollis (a elwir hefyd yn glefyd Cruchet II),[3] encephalomyelitis epidemica, a salwch hedfan.[1]

Jean René Cruchet
GanwydJean René Cruchet Edit this on Wikidata
21 Mawrth 1875 Edit this on Wikidata
Bordeaux Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ebrill 1959 Edit this on Wikidata
Bordeaux Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
AddysgMeddyg Meddygaeth Edit this on Wikidata
Galwedigaethmeddyg, athro, patholegydd, niwrolegydd Edit this on Wikidata
Swyddgweithiwr mewn ysbyty Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier de la Légion d'honneur, Chevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau

golygu