Salwch symud

(Ailgyfeiriad o Salwch teithio)

Cyflwr o deimlo'n sâl ac yn aml chwydu o ganlyniad i symud, gan amlaf wrth deithio, yw salwch symud neu salwch teithio. Achosir gan symudiadau anarferol ailadroddus fel y ceir wrth deithio mewn cerbyd megis car, awyren, neu gwch, neu ar reid ffair. Cyflwr cyffredin yw salwch symud; mae plant yn cael y salwch yn amlach nag oedolion ond maent yn aml yn tyfu allan ohono.[1]

Salwch symud
Dosbarthiad ac adnoddau allanol
ICD-10 T75.3
ICD-9 994.6
OMIM 158280
DiseasesDB 11908
MeSH [1]

Achosion golygu

Achosir salwch symud gan y negeseuon cymysg a anfonir at ymennydd y claf wrth symud. Wrth brofi symudiadau ailadroddus, megis mynd dros dwmpathau neu o amgylch mewn cylch wrth deithio mewn cerbyd, mae canfyddiadau'r llygaid a'r mecanweithiau cydbwysedd mewnol yn y clust yn wahanol i'w gilydd. Mae'r gwrthdaro yn y negeseuon i'r ymennydd yn gwneud i'r claf deimlo'n sâl.[2]

Gall bryder, arogleuon megis bwyd neu betrol, neu geisio darllen wrth deithio ysgogi salwch symud hefyd.[2]

Symptomau golygu

Mae symptomau salwch symud yn cynnwys cyfog, chwydu, dylyfu gên, oeri, chwysu, troi'n welw, cynhyrchu gormod o boer, anadlu'n gyflym, a chur pen. Mewn salwch teithio, gan amlaf mae'r symptomau yn gwaethygu wrth i'r daith barháu ond yn gwella'n gyflym pan fydd y daith ar ben. Mewn rhai pobl, mae'r symptomau'n parháu am ychydig o oriau neu ddyddiau ar ôl i'r daith ddod i ben.[3]

Triniaeth golygu

Mae nifer o gyffuriau ar gael i drin salwch symud, yn ogystal â dulliau amgen a chyngor hunanofal. Cynghorir i deithwyr sy'n dioddef o salwch symud i geisio cael tipyn o awyr iach, sipian ychydig o ddŵr oer, a mynd am dro byr os yw'n bosib.[4]

Cyffuriau golygu

Mae cyffuriau i drin salwch symud ar gael ar bresgripsiwn gan feddyg teulu yn y Deyrnas Unedig yn ogystal â dros y cownter mewn fferyllfa. Mae'r mwyafrif ohonynt yn fwy effeithiol i'w gymryd cyn bod symptomau'n ymddangos os yw'n bosib, e.e. yn union cyn i'r claf fynd ar daith.[4]

Mae'r cyffur hyoscine, sydd ar gael ar ffurf tabledi y gellir eu prynu heb bresgripsiwn o fferyllfa yn y DU, yn atal y signalau nerfol dryslyd sy'n achosi salwch teithio rhag mynd i'r ymennydd. Mae angen eu cymryd rhyw hanner awr cyn teithio i fod yn fwyaf effeithiol, a gall fod angen ailadrodd dos y feddyginiaeth ystod siwrneiau hir. Mae sgîl-effeithiau'r cyffur yn cynnwys teimlo'n gysglyd, ceg sych, a'r golwg yn cymylu, ond anarferol yw'r sgîl-effeithiau hyn gyda'r dosau isel a ddefnyddir i drin salwch teithio. Mae hyoscine ar gael hefyd fel clwt croen, sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig yn y DU, a roddir ar y croen 5 i 6 awr cyn teithio, neu'r noson gynt. Maent yn effeithiol iawn yn atal salwch teithio am hyd at 72 awr.[4]

Gellir cymryd cyffuriau gwrth-histamin megis cinnarizine o leiaf 2 awr cyn teithio i leihau effeithiau salwch symud am ryw 8 awr. Yn anaml iawn, mae cinnarizine yn achosi cysgadrwydd, felly cynghorir i bobl sy'n cymryd y cyffur hwn i beidio â gyrru oherwydd y sgîl effaith hon. Defnyddir y cyffur gwrth-histamin promethazine i drin blant ifanc ar siwrneiau hir gan ei fod yn achosi cysgadrwydd.[4]

Meddyginiaeth amgen golygu

Mae meddyginiaeth amgen i drin salwch symud yn cynnwys sinsir, y gellir ei fwyta fel bisged, yn grisialog, neu ei yfed fel te, a mintys poethion, i'w sugno fel losin neu yfed fel te, er nad yw treialon clinigol eto wedi profi eu bod yn effeithiol i bawb. Mae rhai pobl hefyd yn gwisgo bandiau aciwbwysedd ar eu harddyrnau i geisio gwella symptomau salwch symud.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Salwch teithio: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 21 Medi, 2009.
  2. 2.0 2.1  Salwch teithio: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  3.  Salwch teithio: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4  Salwch teithio: Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.