Jennifer Jones (cyflwynydd)
Cyflwynwydd, newyddiadurwraig a chyn-actores o Gymraes yw Jennifer Vaughan Jones (ganwyd 4 Rhagfyr 1976). Ers 2018 mae'n un o brif gyflwynwyr BBC Wales Today.
Jennifer Jones | |
---|---|
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1976 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, actor, cyflwynydd newyddion |
- Am yr actores Americanaidd, gweler Jennifer Jones
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i ganwyd a magwyd ym Mangor yn ferch i Eirian a Robert (1950-2016) ac yn chwaer i Alison. Roedd ei thad yn ddeintydd ac yn gonsuriwr dan yr enw 'Robert John' gyda chyfres deledu ar S4C yn yr 1980au.[1] Aeth i Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan. Mynychodd Ysgol Glanaethwy ac aeth ei bryd ar actio. Roedd hefyd ganddi ddiddordeb mewn materion cyfoes ac aeth ar brofiad gwaith i ystafell newyddion BBC Bangor. Yn y brifysgol treuliodd ei amser hamdden yn ymarfer ar gyfer dramâu.[2]
Gyrfa
golyguWedi gadael y brifysgol, roedd rhwng dau feddwl am ba gyfeiriad i gymryd, a fe'i derbyniwyd ar gwrs actio ôl-radd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Wedi hynny aeth i weithio ar y gyfres ddrama Tipyn o Stad am naw mlynedd yn chwarae y cymeriad Heather Gurkha.
Symudodd i Gaerdydd gan briodi a magu plant. Tra oedd yn feichiog aeth ar brofiad gwaith i adran newyddion BBC Radio Cymru, cyn cael cynnig swydd yno fel newyddiadurwraig. Mae wedi cyflwyno y prif raglen Newyddion ar S4C a BBC Wales Today ar BBC Wales. Mae hefyd wedi gweithio ar raglenni amser brecwast fel y Post Cyntaf a bwletinau BBC Breakfast. Ers Mehefin 2018 daeth yn un o dri gyflwynydd parhaol ar Wales Today.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Obituaries. British Dental Association (13 Mai 2016).
- ↑ Jennifer Jones: O'r byd actio i gyflwyno Wales Today , BBC Cymru Fyw, 22 Mai 2018.