Rhaglen newyddion iaith Saesneg i BBC Cymru yw BBC Wales Today. Mae'n debyg mai hi yw un o'r cyfresi teledu pwysicaf yng Nghymru, gyda chynulleidfa sylweddol yn gyson, er enghraifft roedd cyfartaledd o 277,000 o wylwyr yn 2006/07.[1]

BBC Wales Today
Enghraifft o:rhaglen newyddion, cyfres deledu Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechreuwyd17 Medi 1962 Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithCaerdydd Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuBBC Cymru Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.bbc.co.uk/walestoday Edit this on Wikidata

Darlledir y prif raglenni bob Llun i Wener o 18:30 - 19:00, ond mae rhaglenni byrion a bwletinau i'w cael drwy'r dydd, o'r bwletinau byrion yn ystod rhaglen Breakfast ar BBC One Wales, hyd at y rhaglen hwyr am 22:25 ar ôl y BBC News at Ten.

Y prif gyflwynwyr yw Lucy Owen, Jennifer Jones a Nick Servini (o Mehefin 2018), y cyflwynydd chwaraeon arferol yw Claire Summers a'r prif gyflwynydd tywydd yw Derek Brockway, Behnaz Akhgar a Sabrina Lee. Golygydd y rhaglen yw Delyth Isaac.

Cyn gyflwynwyr

golygu

Mae cyn gyflwynwyr Wales Today yn cynnwys: Elfyn Thomas, Noreen Bray; John Darren; Sara Edwards; Gail Foley; Jayne James; Rhys Jones; Patrick Hannan; Brian Hoey; Bob Humphrys; Vincent Kane; Jason Mohammad; Chris Morgan; David Parry-Jones; Betsan Powys; Penny Roberts; Simon Pusey; Tim Rogers, Kevin Owen, Glyn Mathias, Peter Walker, Alan Wilkins, Jamie Owen

Cyfeiriadau

golygu
  1. Arolwg Blynyddol BBC Cymru Wales 2006/07

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.