Jennifer Michael Hecht

Awdures Americanaidd yw Jennifer Michael Hecht (ganwyd 23 Tachwedd 1965) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, hanesydd, athronydd ac athrawes. Bu'n athro prifysgol yng Ngholeg Cymuned Nassau rhwng 1994-2007 ac yn ddiweddar bu'n dysgu yn 'y Coleg Newydd' yn Efrog Newydd.

Jennifer Michael Hecht
Ganwyd23 Tachwedd 1965 Edit this on Wikidata
Glen Cove, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylBrooklyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethbardd, hanesydd, athronydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Mudiadanffyddiaeth Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Ralph Waldo Emerson Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Long Island ar 23 Tachwedd 1965. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia a Phrifysgol Adelphi.[1][2]

Erbyn 2019 roedd wedi cyhoeddi saith llyfr a chyhoeddwyd ei herthyglau ysgolheigaidd mewn nifer o bapurau a chylchgronau, ac mae ei barddoniaeth wedi ymddangos yn The New Yorker, The New Republic, Ms Magazine, a Poetry Magazine, ymhlith eraill. Mae hefyd wedi ysgrifennu traethodau ac adolygiadau o lyfrau yn The New York Times, The Washington Post, The Philadelphia Inquirer, The American Scholar, The Boston Globe a chyhoeddiadau eraill. Mae hi wedi ysgrifennu sawl colofn ar gyfer The New York Times ar-lein "Times Select." Yn 2010 roedd Hecht yn un o'r pum beirniad ffuglen ar gyfer y Wobr y Llyfr Genedlaethol.

Mae ganddi flog yn y gyfres The Best American Poetry ac un arall yn ei gwefan hi ei hun. Yn Brooklyn, Efrog Newydd mae'n byw ar hyn o bryd (2019), gyda'i gŵr a dau o blant.

Magwareath golygu

Wedi'i eni yn Glen Cove, Efrog Newydd ar Long Island, aeth Hecht i Brifysgol Adelphi lle enillodd radd BA mewn hanes, gyda chyfnodau o astudio yn Université de Caen, a'r Université d'Angers. Derbyniodd ei PhD am waith o fewn Hanes Gwyddoniaeth o Brifysgol Columbia yn 1995 ac fe ddysgodd yng Ngholeg Cymunedol Nassau o 1994 i 2007, fel athro cysylltiol hanes. Mae Hecht wedi dysgu yn y rhaglenni MFA yn The New School a Phrifysgol Columbia, ac mae'n gymrawd o Sefydliad y Dyniaethau, Efrog Newydd.

Llyfryddiaeth ddethol golygu

Hanes ac athroniaeth golygu

Papurau a chylchgronnau golygu

Varddoniaeth golygu

Casgliadau golygu

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Ralph Waldo Emerson (2004) .

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
  2. Dyddiad geni: "Jennifer Michael Hecht". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.