Gwleidydd Cymreig yw Jennifer Elizabeth Randerson, Barwnes Randerson (ganwyd 26 Mai 1948), sydd yn aelod Democratiaid Rhyddfrydol o Dŷ'r Arglwyddi.

Barwnes Randerson
Jenny Randerson


Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 6 Mai 2011

Geni (1948-05-26) 26 Mai 1948 (76 oed)
Plaid wleidyddol Y Democratiaid Rhyddfrydol

Ganwyd Jennifer "Jenny" Randerson yn Llundain ac fe'i addysgwyd yng Ngholeg Bedford, Prifysgol Llundain. Roedd yn gynghorydd Caerdydd o 1983ńdash;2000 ac yn ddarlithydd yng Ngholeg Trydyddol Caerdydd. Bu'n gynghorydd ar Gyngor Caerdydd a hi oedd arweinydd y gwrthblaid swyddogol ar Gyngor Caerdydd am bedair mlynedd. Yna cynrychiolodd sedd Canol Caerdydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 1999 a 2011. Cyflwynodd strategaeth diwylliant Cymru “Creative Future”, a'r strategaeth gyntaf ar gyfer yr iaith Gymraeg, sef “Iaith Pawb”.

Gwasanaethodd dros dro fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn llywodraeth glymblaid y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol o 6 Gorffennaf 2001 hyd 13 Mehefin 2002, yn absenoldeb Mike German, arweinydd ei phlaid ar y pryd.

Hi fydd Canghellor Prifysgol Caerdydd o 30 Ionawr 2019.[1]

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.