Jerry Lee Lewis
Canwr, cyfansoddwr caneuon a phianydd Americanaidd oedd Jerry Lee Lewis (29 Medi 1935 – 28 Hydref 2022).[1] Roedd e'n arloeswr ym myd cerddoriaeth roc a rôl. Gwnaeth Lewis ei recordiadau cyntaf ym 1956 yn Sun Records yn Memphis. Arafodd ei yrfa roc a rôl yn sgil ei briodas â Myra Gale Brown, ei gefnder 13 oed. Bu yn briod saith gwaith i gyd. [2]
Jerry Lee Lewis | |
---|---|
Ffugenw | The Killer |
Ganwyd | 29 Medi 1935 Ferriday |
Bu farw | 28 Hydref 2022 DeSoto County, Nesbit |
Label recordio | Sun Records, Charly Records, Mercury Records, Elektra Records, MCA Records, Smash Records |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, pianydd, cyfansoddwr, canwr-gyfansoddwr, artist recordio |
Arddull | cerddoriaeth roc, y felan, canu gwlad, rockabilly, honky tonk, cerddoriaeth yr efengyl |
Math o lais | tenor |
Taldra | 1.8 metr |
Priod | Dorothy Barton, Jane Mitchum, Myra Gale Brown, Jaren Elizabeth Gunn Pate, Shawn Stephens, Karrie McCarver, Judith Lewis |
Perthnasau | Jimmy Swaggart, Mickey Gilley |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Rock and Roll Hall of Fame |
Gwefan | http://jerryleelewis.com/ |
llofnod | |
Cafodd Lewis ei eni yn Ferriday, Louisiana, yn fab i Elmo Kidd Lewis Sr. a Mary "Mamie" Herron Lewis, mewn teulu ffermio. Dechreuodd chwarae'r piano gyda dau o'i gefndryd, Mickey Gilley a Jimmy Swaggart (televangelist poblogaidd yn ddiweddarach).
Ei ganeuon mwyaf poblogaidd oedd "Great Balls of Fire" a "Whole Lotta Shakin' Goin' On".
Bu farw yn ei gartref yn DeSoto County, Mississippi, yn 87 oed.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bogdanov, Vladimir (2001). All Music Guide: The Definitive Guide to Popular Music (yn Saesneg). San Francisco: Backbeat Books. t. 234. ISBN 9780879306274.
- ↑ Michael Gray (28 Hydref 2022). "Jerry Lee Lewis obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Hydref 2022.
- ↑ "Jerry Lee Lewis, outrageous rock 'n' roll star, dies at 87". Associated Press (yn Saesneg). 28 Hydref 2022. Cyrchwyd 28 Hydref 2022.