Jess Phillips
Mae Jessica Rose Phillips (née Trainor; ganwyd 9 Hydref 1981) yn wleidydd Prydeinig sy'n gwasanaethu fel Aelod Seneddol (AS) Birmingham Yardley ers 2015. Mae hi wedi bod yn Weinidog yr Wrthblaid dros Drais Domestig a Diogelu ar fainc flaen yr Wrthblaid Keir Starmer ers 2020. Mae hi'n aelod o’r Blaid Lafur.
Jess Phillips | |
---|---|
Ganwyd | Jessica Rose Trainor 9 Hydref 1981 Birmingham |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Shadow Minister for Domestic Violence and Safeguarding, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwefan | https://jessphillips.net/ |
Cafodd Jess Phillips ei geni yn Birmingham, Gorllewin Canolbarth Lloegr, [1] yn ferch i Stewart Trainor, athro, a Jean Trainor (née Mackay), gweinyddwr GIG a chadeirydd Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl De Birmingham.[2][3] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Camp Hill i Ferched y Brenin Edward VI, ysgol ramadeg leol.[4] [5] Uchelgais ei phlentyndod oedd bod yn Brif Weinidog. [4] Astudiodd hanes economaidd a chymdeithasol a pholisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Leeds rhwng 2000 a 2003. Rhwng 2011 a 2013, astudiodd am ddiploma ôl-raddedig mewn rheolaeth sector cyhoeddus ym Mhrifysgol Birmingham.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Truth to Power with Jess Phillips" (yn Saesneg). Birmingham City University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2019.
- ↑ "A new health role for Jean" (yn Saesneg). 21 Hydref 1998. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 August 2017. Cyrchwyd 21 Ionawr 2017.
- ↑ "Anger over plan to close four community hospitals". The Independent (yn Saesneg). 8 Hydref 1997. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mawrth 2017. Cyrchwyd 13 Mawrth 2017.
- ↑ 4.0 4.1 Cooke, Rachel (6 March 2016). "Jess Phillips: someone to believe in". The Observer (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Awst 2016. Cyrchwyd 13 August 2016.
- ↑ Scott, Danny (6 Mawrth 2016). "A Life in the Day: Jess Phillips, Labour MP". The Times (yn Saesneg). London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Ionawr 2018. Cyrchwyd 9 Ionawr 2018.