Jessica Sula
Actores o Gymraes yw Jessica Sula (ganwyd 3 Mai 1994) sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae'r cymeriad Grace Blood yn nhrydedd cenhedlaeth y gyfres deledu Brydeinig Skins.[1]
Jessica Sula | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mai 1994 Gorseinon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm |
Taldra | 165 centimetr |
Cartre'r teulu | yr Almaen |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Sula yng Nghymru. Mae ei mam o Drinidad ac o dras hanner Affro-Sbaenaidd a hanner Tsieineaidd tra bod ei thad o dras hanner Almaenaidd a hanner Estoniaidd.[2] Fe'i magwyd yng Ngorseinon, lle cwblhawyd ei lefel A yn Sbaeneg, Ffrangeg a Drama yng Ngholeg Gorseinon.[1]
Gyrfa
golyguFe wnaeth Sula ei ymddangosiad teledu cyntaf yn 2011, wrth bortreadu Grace Blood ym mhumed a chweched gyfres ddrama E4 i'r arddegau Skins.[3] Yn ddiweddarach, cafodd ran yn nrama comedi Love and Marriage a ddarlledwyd ar ITV yn 2013.[4] Yn 2015, castiwyd Sula fel Maddie Graham, y brif ran yn nrama Recovery Road ar sianel Freeform (ABC Family gynt), wrth ochr ei chyd-actor o Skins, Sebastian de Souza.[5]
Mae ganddi ei rhan cyntaf ar y sgrîn fawr fel prif actores yn Honeytrap, stori merch 15 mlwydd oed sy'n trefnu llofruddiaeth bachgen sydd mewn cariad a hi.[6]
Bywyd personol
golyguFfilmyddiaeth
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2011–12 | Skins | Grace Blood | Cyfres deledu E4 (14 pennod) canwr ym mhennod All because of you (pennod #6.1) |
2013 | Love and Marriage | Scarlett Quilter | Cyfres ITV (penodau) |
2014 | Honeytrap | Layla | Ffilm nodwedd |
2015 | Eye Candy | Morgan | Pennod (1.4): "YOLO" |
2016 | Recovery Road | Maddie Graham | Prif ran[8] |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 March, Polly (29 Ionawr 2011). "Swansea actress beats 8,000 to Skins role". BBC News. Cyrchwyd 12 Chwefror 2012.
- ↑ "Jessica Sula's ethnicity". Twitter status. 19 Chwefror 2012. Cyrchwyd 2 Medi 2012.
- ↑ "New Skins star Jessica Sula talks about landing her first TV role". Wales Online. 23 Ionawr 2011. Cyrchwyd 25 Ebrill 2014.
- ↑ "Love and Marriage". itv. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 7 October 2013.
- ↑ Andreeva, Nellie (10 Chwefror 2015). "ABC Family Series 'Recovery Road' Tweaks Cast; Jessica Sula To Play Lead". Deadline. Cyrchwyd 12 Chwefror 2015.
- ↑ "'Skins' star Jessica Sula to play lead in new film 'Honeytrap'". Digital Spy. 12 Awst 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 7 Hydref 2013.
- ↑ "Jessica Sula plays Grace". Channel 4 Press Info. Ionawr 2011. Cyrchwyd 6 Mai 2012.
- ↑ "Recovery Road: Production Begins on New ABC Family TV Series". TV Series Finale. April 24, 2015. Cyrchwyd April 30, 2015.
Dolenni allanol
golygu- Jessica Sula ar wefan yr Internet Movie Database
- Jessica Sula ar Twitter arTwitter
- Jessica Sula ar Instagram