Ji-binc
Ji-binc | |
---|---|
Ceiliog | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Fringillidae |
Genws: | Fringilla |
Rhywogaeth: | F. coelebs |
Enw deuenwol | |
Fringilla coelebs Linnaeus, 1758 |
Mae'r Ji-binc (Fringilla coelebs) yn perthyn i'r teulu Fringillidae. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, rhannau o orllewin Asia a gogledd-orllewin Affrica.
Mae'n nythu mewn coedydd neu gymysgedd o goedydd a chaeau. Adeiledir y nyth mewn coeden, ac mae'n dodwy tua chwech wy. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond yn y rhannau hynny lle mae'r gaeafau'n oer mae'n symud tua'r de a thua'r gorllewin. Tu allan i'r tymor nythu gall yngasglu yn heidiau o gannoedd ambell dro.
Mae'r ceiliog yn aderyn cyfarwydd a hawdd ei adnabod, gyda chap llwyd ar y pen a'r fron a'r bol yn binc neu goch. Nid yw'r iâr mor lliwgar, gyda'r plu yn llwydfrown yn bennaf, ond mae'n dal yn hawdd ei hadnabod. Mae'r Ji-binc rhwng 14 a 16 cm o hyd. Hadau yw'r prif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.
Daw'r enw Ji-binc o alwad yr aderyn. Mae'r gân hefyd yn adnabyddus. Mae'r Ji-binc yn un o adar mwyaf cyffredin Cymru.