Arweinydd gwrthryfel Iddewig yn erbyn yr Ymerodraeth Seleucaidd oedd Jiwdas Maccabeus (neu Judah Maccabeus, Hebraeg: יהודה המכבי, Yehudah HaMakabi, Judah y Morthwyl, bu farw 160 CC).

Jiwdas Maccabeus
GanwydMileniwm 1. CC Edit this on Wikidata
Unknown Edit this on Wikidata
Bu farw160 CC Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Elasa Edit this on Wikidata
Galwedigaethkohen, cadlywydd milwrol Edit this on Wikidata
Blodeuodd2 g CC Edit this on Wikidata
TadMattathias Edit this on Wikidata
LlinachHasmonean dynasty Edit this on Wikidata
Maccabeus, gan Gustave Doré, 19g
Judea yng nghyfnod Jiwdas Maccabeus

Jiwdas oedd trydydd mab yr offeiriad Mattathias yr Hasmonead, o bentref Modiin. Yn 167 CC, dechreuodd Mattathias a'i feibion Jiwdas, Eleazar, Simon, a Jonathan, wrthryfel yn erbyn Antiochus IV Epiphanes. Ers 175 CC roedd Antiochus wedi cyhoeddi deddfau oedd yn gwahardd arferion crefyddo, Iddewig. Wedi marwolaeth ei dad yn 166 CC, daeth Jiwdas yn arweinydd y gwrthryfel.

Enillodd Jiwdas nifer o frwydrau yn erbyn y Seleuciaid. Ym Mrwydr Wadi Haramia lladdodd Apollonius, llywodraethwr Samaria, a chymerodd ei gleddyf fel symbol o ddial. Yn fuan wedyn, gorchfygodd fyddin fwy ger Beth-Horon. Ym Mrwydr Emmaus gorchfygodd y cadfridogion Nicanor a Gorgias, yna gorchfygodd Lysias ger Beth-Zur, i'r de o Jeriwsalem. Cipiodd ddinas Jeriwsalem ac adferodd y deml ar y 25ain o fis Kislev (14 Rhagfyr, 164 CC); daeth y dyddiad yma yn ŵyl Iddewig Hanukkah.

Gyrroedd Jiwdas ei frawd Simon i Galilea, lle cafodd nifer o fuddigoliaethau dros y Seleuciaid a'r Arabiaid. Gorchfygodd Jiwdas yr Edomiaid a chipiodd Hebron ac Ashdod. Dychwelodd Lysias gyda byddin fawr, a gorchfygodd Jiwdas ym mrwydr Beth-zechariah, gan ei orfodi i encilio i Jeriwsalem. Fodd bynnag, gorfodwyd Lysias i wneud cytundeb heddwch a Jiwdas pan wrthryfelodd Philip, un o gadfridogion Antiochus Epiphanes.

Yn dilyn hyn bu ymryson mewnol rhwng y Maccabeaid a'r blaid Helenistaidd. Diswyddwyd yr archoffeieiad Helenistaidd Menelaus, a'i ddienyddio. Dilynwyd ef gan Alcimus, oedd yn perthyn i'r un blaid. Pan ddienyddiodd Alcimus 60 offeiriad oedd yn ei wrthwynebu, gorfododd y Maccabeaid ef i ffoi o Jeriwsalem. Aeth at y brenin Seleucaidd i ofyn am gymorth,

Erbyn hyn roedd Demetrius I Soter wedi cipio gorsedd yr Ymerodraeth Seleucaidd. Tra'r oedd ef yn ymgyrchu yn y dwyrain, gadawodd ran orllewinol yr ymerodraeth yng ngofal ei gadfridog Bacchides. Daeth ef i Judea gyda byddin fawr, a gorfodi Jiwdas i encilio o Jeriwsalem. Gallodd ddychwelyd yno wedi i Bacchides orfod dychwelyd i Antioch, ac yn 161 CC gorchfygodd fyddin Seleucaidd gerllaw Adasa, gan ladd eu cadfridog Nicanor. Yr un flwyddyn, gwnaeth Jiwdas gytundeb a Gweriniaeth Rhufain.

Dychwelodd Bacchides gyda byddin o tua 20,000, ac ym Mrwydr Elasa, ger Ramallah heddiw; gorchfygodd fyddin lawer llai Jiwdas. Lladdwyd Jiwdas yn y frwydr, a dilyniwyd ef gan ei frawd, Jonathan.