Jo Thomas

cyfansoddwr a aned yn 1972

Mae Jo Thomas (ganwyd 1972) yn gyfansoddwraig sy'n enedigol o Aberystwyth. Enillodd wobr Golden Nica (y prixs ars electronica) am ei gwaith mewn "celf sain a cherddoriaeth ddigidol"; teitl y gwaith oedd: Crystal Sounds of a Synchrotron.[1] Mae wedi perfformio gyda Maria Chavez, Lee Gamble, Phil Nimblock a SquarePusher.

Jo Thomas mewn golygathon ym Mhrifysgol Bangor; Chwefror 2017.

Magwraeth a choleg golygu

Magwyd Jo yn Aberystwyth cyn graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gan barhau yno i nwued ei gradd Meistr. Oddi yno aeth i Brifysgol Dinas Llundain, lle cwbwlhaodd Ddoethuriaeth mewn Cyfansoddi electronig-acwstig yn 2005. Gweithiodd am 11 mlynedd yn Academia, ac mae'n parhau ei chysylltiad agos gyda Phrifysgol Bangor. Fe'i dylanwadwyd gan ei hymweliad â Chwmni Recordiau Sain, pan oedd yn ei harddegau a dylanwadwyd arni hefyd gan y cyfansoddwr John Pickard, a chyfansoddodd ei gwaith cyntaf yn dilyn hyn.

Gwaith golygu

Bu Jo ar fyrddau llywio'r British Music Collection a'r Rhaglen Pathways lle roedd hefyd yn un o'r panel dewis. Mae'n sgwennu am y byd o'i chwmpas gan ganolbwyntio ar hawliau'r anabl, hawliau merched a hawliau dynol. Mae ganddi ei chwmni ei hun.

Derbyniodd sawl comisiwn gan gynnwys o fewn gwledydd Prydain yn ogystal â'r Swistir, Sweden, Portiwgal, Ffrainc, yr UDA, Canada ac Awstralia.

Cyfeiriadau golygu

  1. "www.jothomas.me; adalwyd 24 Chwefror 2017". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-07. Cyrchwyd 2017-02-24.