Joan Abse

hanesydd celf

Roedd Joan Abse (née Mercer) (11 Medi, 192613 Mehefin, 2005) yn hanesydd celf, ymgyrchydd gwleidyddol ac awdur Seisnig.[1]

Joan Abse
GanwydJoan Mercer Edit this on Wikidata
11 Medi 1926 Edit this on Wikidata
St Helens Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mehefin 2005 Edit this on Wikidata
o damwain cerbyd Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethhanesydd celf, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodDannie Abse Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Mercer yn St Helens Swydd Gaerhirfryn yn blentyn i John Mercer peiriannydd a Mary Ann ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg St Helens ac Ysgol Economeg Llundain. Wedi coleg bu'n gweithio hyd ei phriodas fel llyfrgellydd y Financial Times.[1]

Ymgyrchydd gwleidyddol golygu

Roedd hi'n weithgar yn wleidyddol o'i hieuenctid. Daeth yn ysgrifennydd cangen y Blaid Lafur Annibynnol yn St Helens yn 14 oed. Wedi hynny bu ganddi gysylltiad oes â'r elfen honno o wleidyddiaeth chwith i'r canol oedd yn weithredol dros heddychiaeth a'r symudiad gwrth-niwclear.

Daeth hi'n aelod cynnar o'r Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear a bu yn gefnogol i ymgyrch Menywod Greenham Common. Bu hi'n protestio yn erbyn y Rhyfel yn Irac ac yn aelod o Glymblaid Atal y Rhyfel.

Teulu golygu

Priododd Mercer a Dannie Abse, meddyg ym 1951. Roedd Dannie Abse hefyd yn fardd, dramodydd ac yn awdur nifer o lyfrau gan gynnwys The Music Lover's Literary Companion (1988) a Voices in the Gallery (1986), a ysgrifennwyd ar y cyd a'i wraig. Bu iddynt dwy ferch ac un mab.[2]

Hanesydd celf golygu

Cofrestrodd Abse fel myfyriwr hŷn yn Sefydliad Courtauld, lle graddiodd MA mewn hanes celf ym 1972. Arweiniodd ei gwybodaeth eang am gelf, yn enwedig peintio dros y saith canrif ddiwethaf, iddi gyhoeddi nifer o lyfrau oedd yn gwneud celf yn gyraeddadwy i'r darllenydd cyffredin:[3]

  • My London School of Economics (My University) 1977
  • John Ruskin: A Passionate Moralist 1982
  • The Art Galleries of Britain and Ireland: A Guide to their Collections 1985
  • Voices in the Gallery 1986 (ar y cyd â Dannie Abse)
  • Letters from Wales 2000
  • The Music Lover's Literary Companion (ar y cyd â Dannie Abse)

Marwolaeth golygu

Bu farw Abse mewn damwain car ar yr M4 ger Penybont yn 2005.[4]

Cyfeiriadau golygu