Dannie Abse
Bardd yn yr iaith Saesneg, meddyg ac un o awduron cyfoes mwyaf adnabyddus Cymru oedd Daniel Abse CBE neu Dannie Abse (22 Medi 1923 – 28 Medi 2014).[1][2]
Dannie Abse | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 22 Medi 1923 ![]() Caerdydd ![]() |
Bu farw | 28 Medi 2014 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, meddyg ac awdur ![]() |
Priod | Joan Abse ![]() |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Cholmondeley, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol ![]() |
Gwefan | http://www.dannieabse.com/ ![]() |
Cefndir Golygu
Ganwyd Abse yn 161 Ffordd yr Eglwyswen, Gabalfa, Caerdydd yr ifancaf o bedwar plentyn i Rudolf Abse, perchennog sinema, a Kate, (née Shepherd) ei wraig. Roedd ei frawd, Leo Abse, yn Aelod Seneddol Pont-y-pŵl a Thorfaen. Roedd ei frawd Wilfred Abse yn seiciatrydd amlwg yn ymarfer yn yr Unol Daleithiau.[3]
Er bod y teulu yn un Iddewig mynychodd Abse ysgol Gatholig Sant Illtyd, Caerdydd. Wedi'r ysgol bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd cyn mynd i Lundain i astudio meddygaeth yng Ngholeg y Brenin.
Teulu Golygu
Priododd Abse a Joan Mercer ym 1951. Roedd Joan Abse yn hanesydd ac awdur nifer o lyfrau gan gynnwys The Music Lover's Literary Companion (1988) a Voices in the Gallery (1986), a ysgrifennwyd ar y cyd a'i gŵr.[4] Bu iddynt dwy ferch ac un mab. Bu farw Joan mewn damwain car ar yr M4 yn 2005.
Gyrfa Golygu
Cyflawnodd Abse ei Wasanaeth Cenedlaethol fel meddyg yn yr Awyrlu Brenhinol.
Wedi ymadael a'r awyrlu bu'n gweithio fel meddyg a oedd yn arbenigo yn anhwylderau'r frest. Parhaodd i weithio fel meddyg hyd 1989, ac wedi ymddeol rhoddodd ei amser i ysgrifennu, perfformio a golygu.[1]
Llyfryddiaeth Golygu
Barddoniaeth Golygu
- After Every Green Thing (1949)
- Poems, Golders Green (1962)
- Funland and Other Poems (1973)
- One-legged on Ice (1983)
- Ask the Bloody Horse (1986)
- White Coat, Purple Coat: Collected Poems 1948-1988 (1989)
- Be seated, thou: poems 1989-1998 (1999)
- Running Late (2006)
- New and Collected Poems (2008)
Drama Golygu
- The Dogs of Pavlov (1973)
- The View from Row G (1990)
- Speak, Old Parrot (2013)
Hunangofiant Golygu
Eraill Golygu
- Ash on a Young Man's Sleeve (1954)
- Some Corner of an English Field (1956)
- A Poet in the Family
- The Presence (2007)
Marwolaeth Golygu
Bu farw Abse yn Llundain ar 28 Medi 2014. Roedd yn gefnogwr hirdymor i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a chafodd ei farwolaeth ei nodi gan ffotograff ac erthygl yn rhaglen y clwb a chyhoeddiad hanner-amser yn y gêm gartref gyntaf ar ôl iddo farw. Plannwyd coeden er anrhydedd iddo yng ngardd goffa'r clwb yng ngwanwyn 2015.[5]
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Dannie Abse obituary. The Daily Telegraph (28 Medi 2014). Adalwyd ar 28 Medi 2014.
- ↑ Marwolaeth Dannie Abse. BBC Cymru (28 Medi 2014). Adalwyd ar 28 Medi 2014.
- ↑ Curtis, T. (2018, February 15). Abse, Daniel (Dannie) (1923–2014), physician, poet, and author. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 14 Mawrth 2019
- ↑ Independent 17 Gorffennaf 2005 Obituaries -Joan Abse Art historian[dolen marw] adalwyd 14 Mawrth 2019
- ↑ Wales Online 4 MAWRTH 2015 Cardiff City FC memorial for acclaimed author and Bluebirds fan Dannie Abse adalwyd 14 Mawrth 2019