Mudiad a sefydlwyd er mwyn ceisio dwyn perswâd ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared ar arfau niwclear yw'r Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear neu CND (Saesneg: Campaign for Nuclear Disarmament), a sefydlwyd yn 1958.

CND
Enghraifft o'r canlynolcarfan bwyso, peace organization, anti-nuclear weapons movement, sefydliad anllywodraethol Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluTachwedd 1957 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni preifat sy'n gyfyngedig drwy warant Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Enw brodorolCampaign for Nuclear Disarmament Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://cnduk.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Caledi, Cyfoeth ac Anniddigrwydd, 1951-1979
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au, dan arweinyddiaeth y Canon John Collins a'r athronydd Bertrand Russell, trefnwyd nifer o wrthdystiadau mawr yn erbyn polisi arfau niwclear Prydain, ac yn enwedig yn erbyn canolfan ymchwil arfau niwclear Aldermaston.

Gorymdaith CND o Gricieth i Harlech ym mis Mawrth 1962, gan Geoff Charles

Cafodd y mudiad gyfnod tawelach wedyn tan ddechrau'r 1980au a chyfnod llywodraeth Geidwadol asgell-dde Margaret Thatcher. Cydsyniodd Thatcher i gais Ronald Reagan, Arlywydd yr Unol Daleithiau, i osod taflegrau Cruise niwclear ar dir Prydain. Arweiniodd hyn at greu mudiad heddwch, yn glymblaid answyddogol o grwpiau, gyda CND yn chwarae'r rhan flaenllaw. Arweinyddion amlycaf y cyfnod hwnnw oedd Bruce Kent a Joan Ruddock. Yng Nghymru roedd CND Cymru yn gweithredu fel cangen led-annibynnol o'r mudiad Prydeinig. Cafwyd protestiadau mawr ar y strydoedd ledled gwledydd Prydain ac mewn gwersylloedd milwrol fel Comin Greenham a Molesworth.

Mae'r mudiad wedi bod yn llai amlwg ers y 1980au ond yn dal i drefnu protestiadau mewn llefydd fel Canolfan y Llynges yn Faslane yn yr Alban lle cedwir llongau tanfor Trident, a hefyd yn y gwrthdystiadau yn erbyn y rhyfel yn Irac.

Y Ras Arfau Niwclear golygu

Yn 1945, roedd Unol Daleithiau America wedi dangos i'r byd eu harf newydd a oedd yn frawychus o bwerus – y bom atomig, neu'r bom niwclear. Roedd dwy ddinas yn Japan wedi cael eu difa’n llwyr gan y bomiau hyn. Yn 1949, fe wnaeth yr Undeb Sofietaidd ffrwydro eu bom niwclear cyntaf. Dyma ddechrau’r ras arfau niwclear, cystadleuaeth rhwng y ddwy wlad hyn yn y Rhyfel Oer i adeiladu mwy o arfau mwy pwerus. Roedd llawer o bobl yn y Deyrnas Unedig yn ofni’r posibilrwydd o ryfel niwclear lle nad oedd yn debygol y byddai llawer yn goroesi. Roedd llawer o bobl yn sylweddoli y byddai’r Deyrnas Unedig, a oedd mewn cynghrair ag Unol Daleithiau America, yn darged ar gyfer ymosodiad niwclear gan yr Undeb Sofietaidd. Yn yr 1950au, nid oedd bomiau'r Sofietiaid yn gallu cyrraedd Unol Daleithiau America, ond roedd modd cyrraedd y Deyrnas Unedig.

Nid oedd y llywodraeth yn gwneud llawer i dawelu meddyliau pobl y byddent yn cael eu hamddiffyn rhag trychinebau ymosodiad niwclear. Dywedodd adroddiad Gwasanaeth Sifil yn 1954 y byddai bom Sofietaidd ar Lundain yn lladd pedair miliwn o bobl, a byddai ymosodiad llawn ar y Deyrnas Unedig yn lladd neu’n analluogi un o bob tri. Yn ôl un o bolau piniwn Gallup yn 1958, roedd pedwar o bob pum unigolyn yn meddwl y byddai llai na hanner poblogaeth y Deyrnas Unedig yn goroesi ymosodiad niwclear. Prin iawn oedd y cynlluniau amddiffyn sifil realistig - er enghraifft, yn 1962 dywedodd y llywodraeth, pe bai bygythiad o ryfel niwclear, y byddent yn symud deg miliwn o ferched a phlant allan o ddinasoedd y Deyrnas Unedig.

Roedd gwleidyddion Prydain yn dadlau ei bod yn angenrheidiol bod Prydain yn dod yn bŵer niwclear hefyd er mwyn cynnal ei statws yn y byd. Golygai hefyd y gallai’r Deyrnas Unedig amddiffyn ei hun yn erbyn yr Undeb Sofietaidd gyda help gan Unol Daleithiau America, ac y byddai cael yr arfau hyn yn ddigon i berswadio’r Undeb Sofietaidd i beidio ag ymosod ar y Deyrnas Unedig.

Adeiladwyd gorsaf niwclear yn Calder Hall, Cumbria, i gyfoethogi plwtoniwm ar gyfer bom, a daeth Aldermaston yn Berkshire, hen ganolfan yr RAF, yn labordy ymchwil niwclear.[1]

Ffrwydrwyd bom niwclear cyntaf y Deyrnas Unedig yn ynysoedd Monte Bello ger Awstralia yn 1951, a phrofwyd bom hydrogen mwy pwerus ger Ynys y Nadolig yn 1957. Adeiladwyd llynges o dri math gwahanol o fomwyr ‘V’ i ollwng y bomiau hyn – y Valiant, y Victor a’r Vulcan. Gwelwyd datblygiadau mawr yn nhechnoleg taflegrau, ond yn y pen draw, roedd yn rhaid i’r Deyrnas Unedig ddefnyddio taflegrau ‘Thor’ America o 1957 ymlaen a thaflegrau Polaris o 1962 ymlaen.

Sefydlu CND golygu

 
Logo cyfarwydd CND

Roedd rhai pobl yn credu bod arfau niwclear yn gwneud y Deyrnas Unedig yn darged ar gyfer ymosodiad niwclear, yn hytrach na helpu i amddiffyn y Deyrnas Unedig. Roedd Unol Daleithiau America wedi cael caniatâd i osod bomwyr niwclear yn Nwyrain Anglia ers 1946, ac o 1961 ymlaen, roeddent yn cael cadw llongau tanfor niwclear yn Holy Loch, yr Alban, er mwyn lansio taflegrau Polaris. Yn y 1950au, bu'r Blaid Lafur yn trafod y syniad o ddiarfogi unochrog ond nid oeddynt yn cefnogi hynny’n agored. Heb unrhyw gefnogaeth wleidyddol, dechreuodd ymgyrchwyr heddwch eu mudiad eu hunain yn erbyn y rhyfel. Roedd hwn yn grŵp cymysg o bobl, gyda'r aelodau yn cynnwys awduron fel J. B. Priestley, Iris Murdoch a Doris Lessing, athronwyr fel Bertrand Russell, actoresau fel Vanessa Redgrave, haneswyr fel A. J. P. Taylor, ynghyd â Chrynwyr a heddychwyr eraill fel y Canon John Collins. Daeth nifer at ei gilydd yn nhŷ Canon Eglwys Gadeiriol Sant Pawl ym mis Ionawr 1958, a ffurfio’r Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear (CND: Campaign for Nuclear Disarmament). Nod CND oedd perswadio llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared ar ei harfau niwclear i ‘osod esiampl i wledydd eraill drwy herio’n fwriadol y ffaith chwerthinllyd sydd y tu ôl i’r ras arfau’.[2][3]

Cafodd symbol CND ei ddylunio gan yr artist proffesiynol Gerald Holtham, ac mae wedi ei seilio ar signalau semaffor ar gyfer D ac N (diarfogi niwclear) ac yn fuan iawn daeth yn symbol heddwch hawdd i’w adnabod ym mhob cwr o’r byd. Roedd CND yn apelio’n benodol at bobl dosbarth canol ifanc, a oedd wedi diflasu ar y pleidiau gwleidyddol cyffredin, a’r rhai a oedd yn teimlo bod eu bywydau dan fygythiad pe bai rhyfel niwclear yn digwydd. Gan ystyried cefndir dosbarth canol ac addysgiadol y rhan fwyaf o aelodau CND, disgrifiodd yr hanesydd A. J. P. Taylor fudiad CND fel ‘mudiad o ddeallusion ar gyfer deallusion’. Daeth tua 5,000 o bobl i'r cyfarfod cyntaf yn y Central Hall yn Westminster.[4] Roedd 400 cangen erbyn 1960 ac roedd cylchgrawn misol CND, Sanity, yn cyrraedd 45,000 o ddarllenwyr yn rheolaidd.

Adeg y Pasg yn 1958 trefnodd CND orymdaith pedwar diwrnod dros bellter o 80 km o ganol Llundain i’r Sefydliad Ymchwil Arfau Atomig yn Aldermaston yn Berkshire. O’r 4,000 o orymdeithwyr, roedd 90% o dan 25 oed. Aeth tua 20,000 o bobl i gyfarfod yn Sgwâr Trafalgar yn 1959, a 75,000 yn 1960 a 100,000 yn 1963. Gwelwyd protestiadau ar eu heistedd hefyd yng nghanolfan fomio Swaffham a’r Sefydliad Ymchwil Arfau Atomig yn Foulness. Roedd yr heddlu fel arfer yn goddef y protestiadau hyn, ac nid oedd CND yn cael llawer o gyhoeddusrwydd ganddynt. Er enghraifft, ar 18 Chwefror 1961, roedd Bertrand Russell a miloedd o bobl eraill yn protestio ar risiau’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ond eu hanwybyddu wnaeth yr heddlu.

1960au ymlaen golygu

Lleihaodd y gefnogaeth ar gyfer CND yn gyflym yn y 1960au oherwydd y rhesymau a ganlyn:

  • Roedd y Deyrnas Unedig yn dibynnu ar daflegrau Polaris America erbyn hynny, ac nid oedd ganddynt arfau a oedd wir yn annibynnol y gellir eu diarfogi
  • Roedd Argyfwng Taflegrau Cuba 1962 wedi dangos cyn lleied o ddylanwad oedd gan y Deyrnas Unedig ar bolisi America wrth i fomwyr a llongau tanfor yn y Deyrnas Unedig gael eu lansio ar gyfer ymosodiad posibl ar yr Undeb Sofietaidd
  • Dangosodd Cytundeb Atal Profion 1963 y gallai diplomyddiaeth leihau bygythiad y ‘ras arfau’.[1]

Gwelwyd cychwyn cyfnod newydd o weithredu ddechrau’r 1980au gan CND. Yn 1979 enillwyd yr Etholiad Cyffredinol gan lywodraeth Geidwadol asgell-dde Margaret Thatcher. Cydsyniodd Thatcher â chais Ronald Reagan i osod taflegrau Cruise niwclear ar dir Prydain. Arweiniodd hyn at greu mudiad heddwch, yn glymblaid answyddogol o grwpiau, gyda CND yn chwarae'r rhan flaenllaw.

Mae'r mudiad wedi bod yn llai amlwg ers y 1980au ond mae'n dal i drefnu protestiadau mewn llefydd fel Canolfan y Llynges yn Faslane yn yr Alban lle cedwir llongau tanfor Trident, a hefyd yn y gwrthdystiadau yn erbyn y rhyfel yn Irac.

Cadeiryddion ers 1958 golygu

Aelodaeth golygu

O Social Movements in Britain, Paul Byrne, Routledge, ISBN 0-415-07123-2 (1997), t.91.

Blwyddyn Aelodau Blwyddyn Aelodau
1970 2120 1986 84000
1971 2047 1987 75000
1972 2389 1988 72000
1973 2367 1989 62000
1974 2350 1990 62000
1975 2536 1991 60000
1976 3220 1992 57000
1977 4287 1993 52000
1978 3220 1994 47000
1979 4287 1995 47700
1980 9000 2006 32000
1981 20000
1982 50000
1983 75000
1984 100000
1985 92000

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Caledi, Cyfoeth ac Anniddigrwydd, 1951-1979" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 15 Ebrill 2020.
  2. CND, The history of CND
  3. J. B. Priestley, "Britain and the Nuclear Bombs", New Statesman, 2 Tachwedd 1957.
  4. John Minnion and Philip Bolsover (eds), The CND Story, Allison and Busby, 1983, ISBN 0-85031-487-9