Joan Roberts

actores

Roedd Joan Roberts (15 Gorffennaf, 1917 - 13 Awst, 2012) [1] yn actores Americanaidd, oedd yn enwog am greu rôl Laurey yng nghynhyrchiad gwreiddiol Broadway o Oklahoma! ym 1943.

Joan Roberts
Alfred Drake a Roberts yn Oklahoma!
Ganwyd15 Gorffennaf 1917 Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
Bu farw13 Awst 2012 Edit this on Wikidata
Stamford, Connecticut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethcanwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata

Blynyddoedd Cynnar golygu

Ganed Roberts yn Manhattan, Efrog Newydd fel Josephine Seagrist Rose.[2] Ymddangosodd ar y llwyfan am y tro cyntaf yn 6 mlwydd oed. Bu'n weithgar mewn cynyrchiadau dramatig fel myfyriwr yn Ysgol Uwchradd Eglwys Gadeiriol St. Patrick (Manhattan) a chafodd brofiad ychwanegol mewn cynyrchiadau stoc yr haf. Yn ferch, astudiodd Josephine gyda'r athro canu Estelle Liebling, a oedd hefyd yn dysgu Beverly Sills. Yn ei arddegau bu'n teithio'r wlad yn sioeau cerdd Shubert, gan gymryd yr enw llwyfan Joan Roberts yn gynnar.[3]

Gyrfa golygu

Radio golygu

Roedd Roberts yn ymddangos yn rheolaidd yn y Texaco Summer Theater ar sianel radio CBS rhwng 4 Gorffennaf a 5 Rhagfyr, 1943. Roedd yn rhaglen ar gyfer tymor yr haf a oedd bod i gael ei ddarlledu yn lle Sioe Fred Allen ond fe'i hymestynnwyd pan na ddychwelodd Allen i ail gydio yn ei raglen.

Llwyfan golygu

Sunny River ym 1941 oedd y cynhyrchiad cyntaf ar Broadway i Roberts ymddangos ynddi, chwaraeodd Madeleine Caresse. Ym 1942 chwaraeodd yn Hit the Deck gyda the Los Angeles Civic Light Opera.

Cafodd Roberts glyweliad ar gyfer rôl Ado Annie yng nghynhyrchiad gwreiddiol Broadway o Oklahoma! (aeth y rôl i Celeste Holm yn y pen draw), ond penderfynodd libretydd y sioe, Oscar Hammerstein II i'w castio ar gyfer y brif ran fenywaidd, Laurey. Ar adeg ei marwolaeth, roedd hi'n un o bedwar aelod o'r cast oedd wedi goroesi o gynhyrchiad noson agoriadol wreiddiol Oklahoma, 1943 a'r unig un a chwaraeodd brif rôl (Bu farw Celeste Holm sawl wythnos ynghynt), ynghyd â George S. Irving, Marc Platt, a Bambi Linn. Ar ôl Oklahoma!, serennodd Roberts fel Sara Longstreet ar Broadway yn y sioe gerdd High Button Shoes.

Wedi ymddeol o'r llwyfan cynhaliodd Roberts weithdai canu a llais. Yn 2011 fe'i anrhydeddwyd gan Ysgol y Celfyddydau, Prifysgol Gogledd Carolina wrth iddi fynychu eu cynhyrchiad replica o'r Oklahoma! gwreiddiol.

Roedd hi wedi ymddeol ers blynyddoedd lawer i Long Island, Efrog Newydd, pan ymddangosodd fel Heidi Schiller yn adfywiad Broadway 2001 o sioe Stephen Sondheim Follies. Dros y blynyddoedd, fe'i gwelwyd mewn rhaglenni dogfen am Oscar Hammerstein II, George Abbott ac yn y ffilm Broadway: The Golden Age, by Legends Who Were There.

Teledu golygu

Ar 19 Rhagfyr, 1966, ymddangosodd Roberts mewn cynhyrchiad o Jack and the Beanstalk ar CBS-TV.[4]

Bywyd personol golygu

Roedd Roberts yn briod â Dr. John J. Donlon, a fu farw ym 1965. Cawsant fab, John J. Donlon, Jr.

Marwolaeth golygu

Bu farw Roberts yn Stamford, Connecticut o fethiant y galon ar 13 Awst, 2012, yn 95 mlwydd oed.[5]

Gwaith golygu

Llwyfan golygu

Ffilm golygu

Recordiau golygu

  • Joan Roberts Sings of Faith, Hope and Love - Aardvark Records[4]

Llyfryddiaeth golygu

  • Never Alone (McMullen Books Inc., 1954)[6]
  • Stage Right" [7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Theater Mainia Joan Roberts, Original Laurey in Oklahoma!, Has Died adalwyd 29 Ionawr 2019
  2. Encyclopædia Britannica - Joan Roberts AMERICAN ACTRESS Archifwyd 2020-09-25 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 29 Ionawr 2019
  3. New York Times Joan Roberts Dies at 95; Original ‘Oklahoma!’ Star adalwyd 29 Ionawr 2019
  4. 4.0 4.1 The North Adams Transcript, 17 Rhagfyr 1966, Tudalen 18 Jack and Beanstalk with Joan Roberts adalwyd 29 Ionawr 2019
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 5.6 Playbill Joan Roberts, the Soprano Who Gave Voice to Laurey in Oklahoma!, Dead at 95 adalwyd 29 Ionawr 2019
  6. "Never Alone". Amazon. Cyrchwyd 29 Ionawr 2015.
  7. Roberts, Joan; Stage Right, Kaufmann Publishing, 2012; ISBN 0976858096