Roedd Alfred Drake (7 Hydref 191425 Gorffennaf 1992) yn actor Americanaidd oedd yn enwog am ei rolau mewn sioeau cerdd [1]

Alfred Drake
GanwydAlfred Capurro Edit this on Wikidata
7 Hydref 1914 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw25 Gorffennaf 1992 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Label recordioApex Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Coleg Brooklyn Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, dramodydd, actor llwyfan, actor teledu, cyfarwyddwr theatr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Tony am Actor Gorau mewn Sioe Gerdd, Tony Honors for Excellence in Theatre Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Drake yn ninas Efrog Newydd. Ei enw gwreiddiol oedd Alfred Capurro.[2] Roedd yn fab i rieni a mewnfudodd i'r Unol Daleithiau o Recco, Genoa. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Brooklyn

Teulu golygu

Roedd yn frawd i'r cyfansoddwr caneuon ysgafn Arthur Kent (awdur y can Bring Me Sunshine, thema y deuawd comedi Morecambe a Wise). Bu'n briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Alma Tollefsen wedi ysgariad priododd Esther Harvey Brown ym 1944. Roedd ganddo ddau blentyn.

Gyrfa golygu

Dechreuodd Drake ei yrfa Broadway tra'n fyfyriwr yng Ngholeg Brooklyn. Mae'n fwyaf adnabyddus am chware rhannau blaenllaw yng nghyrchiadau gwreiddiol Broadway o Oklahoma!, Kiss Me, Kate a Kismet [3] ac am chwarae Marshall Blackstone yn y cynhyrchiad gwreiddiol o Babes in Arms, (lle canodd cân y teitl). Derbyniodd Wobr Tony am chware rhan Hajj yn Kismet. Roedd hefyd yn nodedig am ei rannau mewn cynyrchiadau o ddramâu Shakespeare yn arbennig am chwarae rôl Benedick yn Much Ado About Nothing gyferbyn a Katharine Hepburn.

Yn bennaf, actor llwyfan a theledu oedd Drake. Serennodd mewn dim ond un ffilm, Tars a Spars [4] (1946) ond bu'n chwarae nifer o rolau ar y teledu, gan gynnwys darparu'r llais ar gyfer addasiad animeiddiedig o nofel L. Frank Baum The Life and Adventures o Santa Claus. Ymddangosodd mewn rôl fân fel llywydd y gyfnewidfa stoc yn y comedi clasurol Trading Places (1983), gydag Eddie Murphy a Dan Aykroyd. Ei ymddangosiad sioe gerdd gyntaf ar y teledu oedd fel y Capten Dick Warrington mewn darllediad byw ym 1955 yn byw o'r opereta Naughty Marietta. Cafodd ei berfformiad 1964 fel Claudius yn Hamlet gyferbyn a Richard Burton ei ffilmio'n fyw ar lwyfan Theatr Lunt-Fontanne, a'i ddangos mewn sinemâu. Fe'i recordiwyd hefyd ar LP. Ei ymddangosiad llwyfan olaf mewn sioe gerdd oedd fel Honore LaChaisse yn Gigi ym 1973. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu'n serennu mewn adfywiad o ddrama Thornton Wilder The Skin of Our Teeth. Fel cyfarwyddwr, bu'n gyfrifol am lwyfannu'r perfformiad cyntaf o The Royal Rape of Ruari Macasmunde yn Theatr Amgueddfa Virginia ym 1974.

Fe'i hurddwyd yn aelod o Oriel Anfarwolion Theatr America ym 1981.[5]

Bu hefyd yn awdur gan gyhoeddi dramâu gan gynnwys Dr. Willy Nilly, addasiad o ddrama Molière Le Médecin malgré lui ac addasiad o ddrama Carlo Goldoni Il bugiardo. Cyhoeddodd hefyd lyfr ar chware cardiau Anyone Can Win at Gin Rummy and Canasta (1949).[6]

Marwolaeth golygu

Bu farw o fethiant y galon yn dilyn brwydr yn erbyn canser yn Ninas Efrog Newydd yn 77 mlwydd oed.[7]

Rolau Theatr golygu

Cyfeiriadau golygu