Joe Calzaghe
Paffiwr a phencampwr y byd o Gymru yw Joseph William "Joe" Calzaghe MBE (ganwyd 23 Mawrth 1972, Hammersmith, Llundain). Mae ganddo'r llysenwau The Pride of Wales a The Italian Dragon oherwydd ei wreiddiau cymysg; cafodd ei eni yn Llundain ond mae ei dad, Enzo Calzaghe, o dras Eidalaidd a Chymraes ydy ei fam. Mae'n byw yn Nhrecelyn ger Cwmbran yn ne bwrdeistref sirol Torfaen ac mae'n cael ei hyfforddi gan ei dad.
Joe Calzaghe | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mawrth 1972 Hammersmith |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | paffiwr |
Taldra | 182 centimetr |
Tad | Enzo Calzaghe |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, WBO World Super Middleweight Champion |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Dechreuodd baffio yn broffesiynol yn 1993, ac enillodd pob un o'i 46 o ornestau dros yrfa a barodd bymtheg mlynedd. Yn 2006, cafodd ei enwebu gan y cylchgrawn The Ring fel un o'r 10 paffiwr gorau'r byd. Ychwanegodd yn Nhachwedd 2007 goron uwch-ganol y WBA a'r WBC at goron y WBO a oedd ganddo eisioes. Nid oes unrhyw un yn y categori uwch-ganol wedi llwyddo i fod yn bencampwr byd cyhyd. Camodd i fyny i'r adran is-drwm yn 2008.
Bywyd cynnar a'i yrfa amatur
golyguGanwyd Joseph William Calzaghe yn fab i Enzo a Jaqueline Calzaghe yn Hammersmith, Llundain, ar 23 Mawrth 1972. Symudodd y teulu i Drecelyn, ger Cwmbran, pan oedd yn ddwy oed. Roedd yn ddisgybl yn y Roots School System. Dechreuodd baffio pan oedd yn naw oed. Mewn dros 120 o ornestau amatur, enillodd bedwar gwobr ABA i fechgyn ysgol, ynghyd â thri gwobr ABA Prydeinig i oedran hyn, a hynny'n olynol.
Yr ornest olaf
golyguYng Ngorffennaf 2008, wedi iddo ef a Frank Warren wahanu, fe gyhoeddwyd yn swyddogol o fwriad iddo ef â Roy Jones Jr. baffio ym mhencampwriaeth 'The Ring Magazine; Light-Heavyweight yn Efrog Newydd (Madison Square Garden ar Fedi'r 20ed, 2008. Gan i Calzaghe frifo'i law dde, gohiriwyd yr ornest tan 8 Tachwedd, 2008.
Yn yr ornest hon, o flaen cynulleidfa o 14,512 (a miliynau dros y cyfryngau), Calzaghe fu'n fuddugol (ar bwyntiau). Mae felly wedi curo pob gorchest baffio ar hyd ei yrfa, hyd yma: 46 ohonynt. Ar ôl yr ornest, pan gafodd gwestiwn ynglŷn ag ymddeol dywedodd, "I am going to sit down with my family, take some time and think about it."
Ymddeol
golyguMae wedi ymddeol o baffio ers Chwefror 2009. Dim ond 4 paffiwr erioed sydd wedi ymddeol heb eu curo.
Teledu
golyguYn 2007, enillodd Calzaghe wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC gyda 28.1% o bleidlais y cyhoedd. Enillodd y wobr honno gan BBC Cymru yn 2001, 2006 a 2007.
Bu'n cystadlu yn y gyfres Strictly Come Dancing yn 2009 gyda'i gymar Kristina Rihanoff.
Gweler hefyd
golyguRhagflaenydd: Tanni Grey-Thompson |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 2001 |
Olynydd: Mark Hughes |
Rhagflaenydd: Gareth Thomas |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 2006 & 2007 |
Olynydd: Shane Williams |