Johann Christian Bach
Roedd Johann Christian Bach (5 Medi, 1735 – 1 Ionawr, 1782) yn Gyfansoddwr Almaenig o'r oes Glasurol.[1] Roedd yn ddeunawfed plentyn Johann Sebastian Bach, a'r ieuengaf o'i un mab ar ddeg.[2] Ar ôl cyfnod yn yr Eidal, symudodd Bach i Lundain ym 1762,[3] lle daeth yn adnabyddus fel "The London Bach".[4] Weithiau mae'n cael ei adnabod fel "y Bach Seisnig", ac yn ystod ei amser yn byw yn Llundain, daeth i gael ei adnabod fel John Bach. Mae'n nodedig am chwarae rôl wrth ddylanwadu ar arddulliau concerto Haydn a Mozart .
Johann Christian Bach | |
---|---|
Ganwyd | 5 Medi 1735 Leipzig |
Bu farw | 1 Ionawr 1782 Llundain |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, pianydd, trefnydd cerdd |
Adnabyddus am | Lucio Sila |
Arddull | opera, symffoni |
Tad | Johann Sebastian Bach |
Mam | Anna Magdalena Bach |
Priod | Cecília Grassi |
Llinach | teulu Bach |
Bywyd
golyguGanwyd Johann Christian Bach i Johann Sebastian ac Anna Magdalena Bach yn Leipzig, yr Almaen. Roedd ei dad enwog eisoes yn 50 oed adeg ei eni - bwlch oedran sy'n cael ei amlygu gan y cyferbyniad llwyr rhwng arddulliau cerddorol y tad a'r mab. Er hynny, cyfarwyddodd y tad Bach Johann Christian mewn cerddoriaeth hyd at ei farwolaeth ym 1750.[5] Ar ôl marwolaeth ei dad, bu’n gweithio (ac yn byw) gyda’i hanner brawd ail hynaf Carl Philipp Emanuel Bach,[5] a oedd yn un mlynedd ar hugain yn hŷn nag ef ac a ystyriwyd, ar y pryd, fel y mab mwyaf dawnus yn gerddorol o holl feibion Bach.
Mwynhaodd yrfa addawol, yn gyntaf fel cyfansoddwr ac yna fel perfformiwr yn chwarae ochr yn ochr â Carl Friedrich Abel, chwaraewr nodedig y fiola da gamba . Cyfansoddodd cantatau, cerddoriaeth siambr, gweithiau bysellfwrdd a cherddorfaol, operâu a symffonïau.
Aeth Bach i fyw i'r Eidal ym 1750 gan aros yno nifer o flynyddoedd.[2] Bu'n astudio yno gyda Padre Martini yn Bologna. Daeth yn organydd yn eglwys gadeiriol Milan ym 1760. Yn ystod ei gyfnod yn yr Eidal, trodd o Lutheriaeth i Gatholigiaeth ac fe neilltuodd lawer o amser i gyfansoddiad cerddoriaeth eglwysig, gan gynnwys cerddoriaeth ar gyfer Offeren Requiem a Te Deum.[6] Ei waith mawr cyntaf oedd Offeren, a gafodd berfformiad a chlod rhagorol ym 1757. Ym 1762, teithiodd Bach i Lundain i première tair opera yn Theatr y Brenin, gan gynnwys Orione ar 19 Chwefror 1763. Ym 1764 neu 65 creodd y castrato Giusto Fernando Tenducci, a ddaeth yn ffrind agos, rôl y teitl yn ei opera Adriano yn Siria.[7]
Sefydlodd ei enw da yn Lloegr, a daeth yn feistr cerdd i'r Frenhines Charlotte. Ym 1766, cyfarfu Bach â'r soprano Cecilia Grassi, a oedd yn un mlynedd ar ddeg yn iau na fo, a'i phriodi yn fuan wedi hynny. Ni fu iddynt blant. Perfformiodd JC Bach symffonïau a chyngherddau yn yr Hanover Square Rooms ar gornel Sgwâr Hanover a Hanover Street. Hwn oedd prif leoliad cyngerdd Llundain yng nghanol y Mayfair ffasiynol. Roedd y cartrefi Sioraidd cyfagos yn cynnig cwsmeriaid da ar gyfer ei berfformiadau. Roedd un o brif gylchoedd llenyddol Llundain a oedd yn cynnwys Jane Timbury, Robert Gunnell, Yr Arglwydd Beauchamp, a Duges Buccleuch, ymysg eraill, yn gyfarwydd â Bach ac yn fynychwyr rheolaidd yn ei ddigwyddiadau.
Erbyn diwedd y 1770au, roedd ei boblogrwydd a'i gyllid yn dirywio. Erbyn marwolaeth Bach ar Ddydd Calan 1782,[8] roedd wedi mynd mor ddyledus (yn rhannol oherwydd ei stiward yn ysbeilio ei arian), nes i'r Frenhines Charlotte gamu i'r adwy i dalu treuliau'r ystâd a darparu pensiwn am oes i'w Gweddw. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Hen Eglwys St Pancras, Llundain.
Gwaddol
golyguRhoddir disgrifiad llawn o yrfa JC Bach ym mhedwaredd gyfrol History of Music Charles Burney .
Mae dau arall o'r enw Johann Christian Bach yng ngardd achau'r teulu Bach, ond nid oedd y naill na'r llall yn gyfansoddwr.
Ym 1764 cyfarfu Bach â Wolfgang Amadeus Mozart, a oedd yn wyth oed ar y pryd ac a oedd ar ymweliad i Lundain efo'i dad.[9] Yna treuliodd Bach bum mis yn dysgu cyfansoddi i Mozart. Mae Bach yn cael ei ystyried gan lawer fel un a chafodd dylanwad cryf ar y Mozart ifanc, gydag ysgolheigion fel Téodor de Wyzewa a Georges de Saint-Foix yn ei ddisgrifio fel "Unig wir athro Mozart". Trefnodd Mozart dair sonata o Opws 5 Bach fel concertos bysellfwrdd, ac yn ddiweddarach mewn bywyd roedd Mozart "yn aml yn cydnabod y ddyled artistig roedd ganddo iddo" i Johann Christian.[10] Ar ôl clywed am farwolaeth Bach ym 1782, dywedodd Mozart, "Am golled i'r byd cerddorol!" [11]
Gweithiau
golyguRhoddir rhifau 'W' i weithiau J.C. Bach, o gatalog Thematig Ernest Warburton o'i weithiau (Dinas Efrog Newydd: Garland Publishing, 1999). Mae cyfansoddiadau Bach yn cynnwys un ar ddeg o operâu,[2] yn ogystal â cherddoriaeth siambr, cerddoriaeth gerddorfaol a chyfansoddiadau ar gyfer cerddoriaeth bysellfwrdd.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Bach, Johann Christian (1735–1782), composer". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/37137. Cyrchwyd 2020-10-18.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Bagnoli, Giorgio (1993). The La Scala Encyclopedia of the Opera. Simon and Schuster. t. 38. ISBN 9780671870423.
- ↑ Burnett, Henry (2017). Composition, Chromaticism and the Developmental Process: A New Theory of Tonality. Routledge. t. 211. ISBN 9781351571333.
- ↑ Siblin, Eric (2011). The Cello Suites: J. S. Bach, Pablo Casals, and the Search for a Baroque Masterpiece. t. 234. ISBN 9780802197979.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Johann Christian Bach". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 3 Medi 2017.
- ↑ "The Catholic Bach", Cantica Nova Publications
- ↑ Baldwin, Olive; Wilson, Thelma (2004). "Tenducci, Giusto Ferdinando". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/67196.(angen tanysgrifiad)
- ↑ "Johann Christian Bach | Biography, Albums, Streaming Links". AllMusic. Cyrchwyd 2020-10-18.
- ↑ Shore, Rebecca Ann (2002). Baby Teacher: Nurturing Neural Networks From Birth to Age Five. R&L Education. t. 86. ISBN 9781461648079.
- ↑ Denis Arnold a Basil Smallman], "Bach family", yn Oxford Companion to Music, gol. Alison Latham, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002, tud. 80. ISBN 978-0-19-866212-9
- ↑ Mersmann, Hans (1972). Letters of Wolfgang Amadeus Mozart. New York: Dover Publications. tt. 194. ISBN 0-486-22859-2.