John Roberts Williams
Newyddiadwr a darlledwr oedd John Roberts Williams (24 Mawrth 1914 - 27 Hydref 2004). Roedd yn frodor o Llangybi yn Eifionydd, Gwynedd. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Pwllheli a Choleg y Brifysgol, Bangor. Fel awdur roedd yn adnabyddus dan y ffugenw John Aelod Jones.
John Roberts Williams | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1914 Llangybi |
Bu farw | 27 Hydref 2004 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | darlledwr, newyddiadurwr |
Bywgraffiad
golyguDechreuodd ei yrfa newyddiadurol gyda'r Herald yng Nghaernarfon. Daeth yn olygydd Y Cymro yn 1942 a parhaodd yn y swydd hyd 1962. Bu'n gyfrifol am gynyddu y gwerthiant yn sylweddol i 27,000 trwy boblogeiddio'r papur.
Fe fu'n gyfrifol am wneud yr ail ffilm Gymraeg ei hiaith sef Yr Etifeddiaeth.
Penodwyd ef yn olygydd newyddion Teledu Cymru pan sefydlwyd y sianel hwnnw, ond yn anffodus ni barhaodd y fenter honno fwy na naw mis. Ar ôl hynny bu'n gynhyrchydd rhaglen newyddion Heddiw i'r BBC cyn dod yn bennaeth adran Gogledd Cymru y BBC ym Mangor yn 1972.
Ar ôl ymddeol yn 1976 gofynnwyd iddo baratoi colofn radio wythnosol, Tros Fy Sbectol ar BBC Radio Cymru. Bu hon yn hynod o boblogaidd ac fe barodd am bron i 29 mlynedd ac hwyrach y cofir ef am y rhaglen hon yn fwy na dim. Yn ogystal roedd yn olygydd Y Casglwr, cylchgrawn Cymdeithas Bob Owen rhwng 1976 a 1991.
Bywyd personol
golyguPriododd Gwendolen Pugh Roberts yn 1941 ac roedd ganddynt un mab a merch. Bu farw ei wraig yn 1969 a bu farw Williams yng Nghaernarfon yn 2004.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Meic Stephens. John Roberts Williams - Longtime editor of 'Y Cymro' and a pioneer of Welsh cinema (en) , Independent.co.ukn, 29 Hydref 2004. Cyrchwyd ar 12 Mawrth 2016.