William Smyth
Roedd William Smyth (neu Smith) (tua 1460 – 2 Ionawr 1514) yn Esgob Coventry a Chaerlwytgoed rhwng 1493 a 1496 ac yna'n Esgob Lincoln hyd ei farwolaeth. Daliodd nifer o swyddi gwleidyddol, y pwysicaf oedd Arglwydd Lywydd Cyngor Cymru a'r Gororau. Daeth yn gyfoethog iawn ac roedd yn gymwynaswr i nifer o sefydliadau. Roedd yn gyd-sylfaenydd Coleg y Trwyn Pres, Rhydychen a chynysgaeddodd ysgol ramadeg ym mhentref ei eni yn Swydd Gaerhirfryn.
William Smyth | |
---|---|
Ganwyd | 1460 Farnworth, Swydd Gaer |
Bu farw | 2 Ionawr 1514 Buckden Towers |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Roman Catholic Bishop of Lincoln (England), Roman Catholic Bishop of Coventry and Lichfield |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGaned Smyth ym mhentref Farnworth yn ne Swydd Gaerhirfryn ym mhlwyf Prescot, sydd bellach yn rhan o dref Widnes ym Mwrdeistref Halton. Smyth oedd pedwerydd mab Robert Smyth o Peel Hall.[1][2] Honnir iddo gael ei fagu yn ystod ei ieuenctid [3] yn Knowsley Hall gerllaw, cartref Thomas Stanley, Iarll 1af Derby. Ar yr adeg hon roedd Stanley yn briod â'i ail wraig Margaret, Iarlles Richmond.[4] Roedd yr Arglwyddes Margaret yn fam i Harri Tudur (Harri VII, brenin Lloegr wedyn) trwy ei phriodas flaenorol ag Edmwnd Tudur, Iarll 1af Richmond,[5] ac roedd hi i gael dylanwad pwysig ym mywyd Smyth.[6]
Aeth Smyth i Brifysgol Rhydychen. Mae pa goleg yn ansicr, naill ai Oriel neu Lincoln, neu'r ddau yn olynol.[7] Ym 1476 enillodd radd Baglor yn y Gyfraith Ganonaidd ac erbyn 1492 roedd wedi derbyn gradd Baglor yn y Gyfraith Sifil.[6]
Bywyd eglwysig
golyguAr 24 Medi 1485, mis ar ôl brwydr Bosworth ac esgyniad Harri VII i orsedd Lloegr, cafodd Smyth ei benodi i ddeoniaeth Wimborne, Dorset, lle claddwyd rhieni’r Arglwyddes Margaret. Ar 20 Hydref 1485 gwnaed ef yn ganon ac yn brebendari Capel St Steffan ym Mhalas San Steffan, lle daeth yn ddeon yn 1490.[6] Yn ddiweddarach cafodd fywoliaethau Combe Martin, Dyfnaint, a Great Grimsby [8]. Ar 14 Mehefin 1492 fe'i sefydlwyd yn rheithor Cheshunt, Swydd Hertford.[9] Nid yw'n bosibl bod yn sicr am yr holl swyddi eglwysig a roddwyd iddo oherwydd ei enw cyffredin.
Ar 1 Hydref 1492 daeth yn esgob Coventry a Chaerlwytgoed a chysegrwyd ef ar 3 Chwefror 1493 gan yr Archesgob Morton.[6] Ar 6 Tachwedd 1496 cafodd ei drosglwyddo i esgobaeth Lincoln.[10]
Bywyd gwleidyddol
golyguAr 20 Medi 1485 enillodd Smyth le yn Llys y Siawnsri fel ceidwad yr hanaper (cwpan y brenin) a roddodd gyflog am oes iddo.[11] Ym 1486 cafodd grant ar gyfer cystodaeth merched Edward IV.[6] Ym 1493 penodwyd Smyth yn aelod o Gyngor Cymru a'r Gororau'r Tywysog Arthur. Ym 1500 gwnaed ef yn Ganghellor Prifysgol Rhydychen.
Bu farw'r Tywysog Arthur ym mis Ebrill 1502 ac ym mis Awst y flwyddyn honno daeth Smyth yn Arglwydd Lywydd Cyngor Cymru a'r Gororau, gan roi cyfrifoldeb llawn iddo am arfer pŵer brenhinol yng Nghymru. Parhaodd i ddal y swydd hon tan o leiaf 1512 neu, o bosibl, hyd ei farwolaeth. Erbyn Awst 1502 nid oedd bellach yn Ganghellor Prifysgol Rhydychen.[6]
Dyngarwch
golyguYm mis Tachwedd 1495 adnewyddodd Smyth ysbyty Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerlwytgoed ac ychwanegu ysgol iddo ar gyfer plant tlawd. Ym 1500 sefydlodd Gapel Cuerdley a ychwanegwyd at ystlys ddeheuol Eglwys Sant Luc, Farnworth at ddefnydd ei denantiaid o bentref Cuerdley.[7] Pentref Cuerdley gerllaw oedd sedd teulu bonheddig a hynafol iawn y teulu Smyth. Hawliodd yr esgob Smyth elfenau o'u herodraeth yn ei arfbais. Prynodd dir gan gynnwys llwybr troed o'r pentref i'r eglwys i ganiatáu mynediad i'w denantiaid trwy ddrws ar wahân er mwyn osgoi dod i gysylltiad â thrigolion Farnworth ar adeg y pla.[12] Ym 1507 gwnaeth waddol o £ 350 i sefydlu ysgol ramadeg yn Farnworth, pentref ei eni.[13]
Hefyd ym 1507 sefydlodd Smyth gymrodoriaeth yng Ngholeg Oriel, Rhydychen, a rhoddodd faenorau i Goleg Lincoln. Tua'r un amser aeth ef a Syr Richard Sutton ati i sefydlu coleg newydd yn Rhydychen. Fe wnaethant ailadeiladu Neuadd Y Trwyn Pres, ychwanegu ati neuaddau eraill a oedd yn bodoli eisoes, ac ar ôl cael siarter ym 1512, ei alw'n "The King haule and college of Brasennose".[8] Coleg y Trwyn Pres yw hwn bellach. Bwriad Smyth ar gyfer y coleg oedd bod o fudd i glerigwyr o ogledd Lloegr. Roedd deuddeg cymrawd y coleg i fod i gael eu geni yn esgobaeth Coventry a Chaerlwytgoed, neu i fod wedi dod o Swydd Gaerhirfryn, ac yn enwedig o ardal ei fan geni ef. Rhoddodd i'r coleg ei diroedd yn Cold Norton ac, yn ôl ei ewyllys, etifeddiaeth sylweddol o diroedd, plât, urdd wisgoedd, llawysgrifau a llyfrau.[6]
Gwaddol
golyguArweiniodd dyletswyddau eglwysig, cyfreithiol a gwleidyddol Smyth iddo gael bywyd prysur iawn, dim ond ar adegau prin byddai'n preswylio yn ei esgobaeth. Roedd yn gyfoethog iawn a chafodd ei ddisgrifio gan Hugh Latimer fel "prelad heb bregeth". Yn sicr nid oes unrhyw bregeth ganddo wedi goroesi.[6] Rydd yn ymarfer â nepotistiaeth ar raddfa eang. Matthew Smyth oedd pennaeth cyntaf Coleg y Trwyn Pres,[8] roedd William Smyth yn archddiacon Northampton ac yna o Lincoln a phenodwyd William Smyth arall i Ysbyty Sant Ioan, Caerlwytgoed.
Bu farw William Smyth ar 2 Ionawr 1514 [10] ym Mhalas Buckden, sydd bellach yn Swydd Caergrawnt, un o breswylfeydd esgobion Lincoln. Yn ogystal â chymynroddion i Goleg Brasenose ac Eglwys Gadeiriol Lincoln, gwnaeth ddarpariaeth ar gyfer ysbyty yn Banbury. Mae wedi ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol Lincoln.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Poole, tud. 21
- ↑ Fishwick, Henry; Ditchfield, P. H. (Peter Hampson) (1909). Memorials of Old Lancashire (1909). cyf 2: tud. 262
- ↑ Wise, Charles (1891). Rockingham Castle and the Watsons, tud. 191.
- ↑ Poole, tud. 22
- ↑ E. M. G. Routh, (1924) Lady Margaret: A Memoir of Lady Margaret Beaufort, Countess of Richmond & Derby, Mother of Henry VII, London: Oxford University Press e-text
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 6.6 6.7 6.8 (Saesneg) Bowler, Margaret. "Smith, William (d. 1514)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/25920.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ 7.0 7.1 Foster, Alan (1981). A History of Farnworth Village and its Parish Church. tt. 25–28.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 1911 WiciDestyn Saesneg Encyclopædia Britannica, Volume 25 Smyth, William adalwyd 7 Ebrill 2020
- ↑ Poole, tud. 25
- ↑ 10.0 10.1 Fryde, et al., tud. 256
- ↑ Poole, tud. 23
- ↑ Poole, tud. 75
- ↑ Poole, tud. 27
Llyfryddiaeth
golygu- Fryde, E. B.; Greenway, D. E.; Porter, S.; Roy, I. (1996). Handbook of British Chronology (arg. Third revised). Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-56350-X.
- Poole, Charles (1906). Old Widnes and its Neighbourhood. Widnes: Exors. of T.S. Swale.
Teitlau Anrhydeddus | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Alcock |
Llywydd Cyngor Cymru a'r Gororau 1501 - 1512 |
Olynydd: Geoffrey Blyth |