John Ambrose Lloyd

cerddor

Cerddor Cymreig ac awdur emyn-donau oedd John Ambrose Lloyd (14 Mehefin 1815 - 14 Tachwedd 1874).

John Ambrose Lloyd
Ganwyd14 Mehefin 1815 Edit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
Bu farw14 Tachwedd 1874 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata
PlantCharles Francis Lloyd Edit this on Wikidata

Ganed ef yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yn fab i Enoch Lloyd, gwneuthurwr dodrefn, a'i wraig Catherine. Ordeiniwyd ei dad yn weinidog yn 1830 a symudodd y teulu i Hill Cliffe Warrington. Aeth John i Lerpwl i gynorthwyo ei frawd Isaac, oedd yn athro ysgol yno. Yn Lerpwl, cyfansoddodd ei dôn gyntaf yn 1831, a rhoddodd yr enw Wyddgrug arni. Bu'n athro mewn gwahanol ysgolion yn Lerpwl hyd 1849; yn ddiweddarach bu'n drafaeliwr masnachol hyd 1871. Symudodd i fyw i Bwlch Bach, ger tref Conwy yn 1851, i Gaer y flwyddyn wedyn, yna yn 1864 i'r Rhyl.

Cyfansoddodd nifer fawr o donau, yn cynnwys casgliadau Casgliad o Donau (1843) ac Aberth Moliant (1870). Cyhoeddwyd cofiant iddo gan ei fab, C. Francis Lloyd.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.