John Brooks, Barwn Brooks o Dremorfa
Gwleidydd a gweinyddwr bocsio Cymreig oedd John Edward "Jack" Brooks, Baron Brooks o Dremorfa DL (12 Ebrill 1927 – 4 Mawrth 2016).[1]
John Brooks, Barwn Brooks o Dremorfa | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ebrill 1927 ![]() Caerdydd ![]() |
Bu farw | 4 Mawrth 2016 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur ![]() |
Tad | Edward George Brooks ![]() |
Mam | Rachel White ![]() |
Priod | Margaret Pringle ![]() |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Brooks yng Nghaerdydd yn 1927, yn fab i Edward George Brooks a Rachel White, a fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Harlech.[2]
Gyrfa
golyguRhwng 1966 a 1984, roedd Brooks yn Ysgrifennydd Y Blaid Lafur i etholaeth De-ddwyrain Caerdydd. Yn etholiad cyffredinol Chwefror 1974 a Hydref 1974, ymgeisiodd dros Lafur yn etholaeth Y Barri. Bu'n asiant i'r cyn prif-weinidog Jim Callaghan a gynrychiolodd sawl etholaeth yng Nghaerdydd.
Etholwyd Brooks fel cynghorydd yn ward Splott yng Nghaerdydd.[3] Daeth yn arweinydd Cyngor Sir De Morgannwg (CSDM), ac roedd yn adnabyddus am ei "arweinyddiaeth gadarn" a'i reolaeth effeithiol o grŵp y Blaid Lafur yn yr 1980au[4] Daeth Brooks i'w weld fel dylanwad mawr ar Russell Goodway a fyddai'n dod yn arweinydd y Cyngor Sir a Chyngor Chaerdydd yn ddiweddarach.[4]
Ar 17 Gorffennaf 1979, daeth yn Arglwydd am oes, fel Barwn Brooks o Dremorfa, o Dremorfa yn Sir Forgannwg.[5] Cafodd anrhydedd pellach gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd yn Athrofa Prifysgol Cymru (UWIC). Fel Dirprwy Gadeirydd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (a chynrychiolydd y Cyngor), roedd yn allweddol yn ail-ddatblygu ardal y Dociau yng Nghaerdydd a adnabyddir heddiw fel Bae Caerdydd.[3]
Roedd Brooks yn Is-gadeirydd Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain rhwng 1999 a 2000 a daeth yn llywydd y bwrdd yn 2004. Yn 2001 enillodd y cyn-focsiwr Michael Watson achos o esgeulustod yn erbyn y Bwrdd, roedd yn rhaid iddynt dalu £400,000 o iawndal ac roedd yn rhaid gwerthu ei phencadlys yn Llundain. I osgoi methdaliad roedd yn rhaid i'r bwrdd arbed arian ac roedd Brooks yn allweddol i'r cynnig i symud pencadlys y bwrdd i swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd.[6] Roedd Brooks yn gyn-gadeirydd Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru o 1988, a Sportsmatch Cymru ers 1992.[7] Yn 1994, fe'i gwnaed yn Ddirprwy Raglaw dros Dde Morgannwg.[8]
Bywyd personol
golyguPriododd Brooks gyntaf yn 1948 ond fe ysgarodd yn 1956. Yn 1958, priododd Margaret Pringle. Roedd ganddo fab a merch o'r briodas gyntaf a dau fab gyda Margaret.[2] Bu farw ar 4 Mawrth 2016 yn 88 mlwydd oed.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Baroness D'Souza, The Lord Speaker (8 March 2016). "Today's House of Lords debates - Tuesday 08 March 2016". Parliamentary Debates (Hansard). United Kingdom: House of Lords. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-08. Cyrchwyd 2016-03-08.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ 2.0 2.1 Brooks, John Edward.
- ↑ 3.0 3.1 "Jack Brooks", South Wales Echo, 25 February 2005.
- ↑ 4.0 4.1 Hooper, Alan; Punter, John (2006). Capital Cardiff 1975-2020: Regeneration, Competitiveness and the Urban Environment. University of Wales Press. t. 37. ISBN 0-7083-2063-5.
- ↑ London Gazette: no. 47908. p. 9066. 19 July 1979.
- ↑ "Board switches base to Cardiff". BBC Sport. 2001-12-20.
- ↑ Frank Warren (4 March 2016). "Boxing will miss Jack Brooks, a true champion of the Noble Art". Cyrchwyd 7 March 2016.
- ↑ 8.0 8.1 Shipton, Martin (4 March 2016). "Lord Jack Brooks, who laid the foundations for Cardiff's transformation, has died aged 88". WalesOnline. Cyrchwyd 4 March 2016.