Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd

Sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 3 Ebrill 1987[1] i ailddatblygu hen ardaloedd diwydiannol Caerdydd i greu Bae Caerdydd.

Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd


PencadlysCaerdydd
Iaith / Ieithoedd swyddogolCymraeg a Saesneg
CadeiryddSyr Geoffrey Inkin
Sefydlwyd1987
Diddymwyd2000
Pobl blaenllawBarry Lane,
Michael Boyce

Amcanion golygu

Fe osododd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards ddatganiad cenhadaeth CDBC fel:

I roi Caerdydd ar y map rhyngwladol fel dinas arforol ragorol fydd yn gymharol ac unrhyw fath ddinas yn y byd, ac felly yn gwella delwedd a ffyniant economaidd Caerdydd a Chymru yn ei gyfanrwydd.'[2]

Y pum prif nodau ac amcanion oedd:

  • I hyrwyddo datblygiad a darparu amgylchfyd rhagorol lle fydd pobl eisiau byw, gweithio a chwarae
  • I ailgysylltu Dinas Caerdydd gyda'i lannau.
  • I ddod a chymysgedd o ddatblygiadau a fydd yn creu ystod eang o gyfleoedd swyddi a fydd yn adlewyrchu gobeithion a dyheadau cymunedau'r ardal.
  • I gyflawni'r safon uchaf posib o ddylunio ac ansawdd ar draws yr holl fathau o ddatblygiadau a buddsoddiad.
  • I sefydlu'r ardal fel canolfan gydnabyddedig o ragoriaeth ac arloesedd yn y maes adfywiad trefol.[angen ffynhonnell]

Roedd y CDBC yn bennaf gyfrifol am adeiladu Morglawdd Bae Caerdydd, canolfan siopa a thai ar draws yr hen ddociau yn y 1990au a datblygiad Plas Roald Dahl.

Llwyddiannau golygu

Yn ystod bywyd CDBC, adeiladwyd 14,000,000 troedfedd sgwar (1,300,000 m2) o ddatblygiad nad oedd yn dai a 5,780 o unedau tai. Crëwyd 31,000 o swyddi a buddsoddwyd tua £1.8 biliwn o gyllid preifat. Adferwyd tua 200 acr (81 ha) o dir diffaith.[3]

Y Cadeirydd oedd Sir Geoffrey Inkin.[4] Y Prif Weithredwr cyntaf oedd Barry Lane,[5] a olynwyd gan Michael Boyce.[4]

Fe ddiddymwyd y CDBC ar 31 Mawrth 2000. Ar 1 Ebrill 2000 gwnaeth Awdurdod Harbwr Caerdydd gymryd drosodd rheolaeth y CDBC o'r morglawdd, y Bae Mewndirol a'r afonydd Taf ac Elai.

Fe gyhoeddwyd gwerthusiad o adfywiad Bae Caerdydd yn 2004 a daeth i'r casgliad fod y prosiect wedi "atgyfnerthu safle cystadleuol Caerdydd" a "wedi cyfrannu at welliant anferthol yn ansawdd yr amgylchedd adeiledig". Fodd bynnag, nid oedd y prosiect adfywio wedi llwyddo gymaint o ran creu cyflogaeth. Gorffennodd y gwerthusiad drwy ddweud fod "y canlyniad, er yn gyflawniad mawr a cham anferth ymlaen, yn cwympo'n fyr o'r weledigaeth wreiddiol."[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Cardiff Bay Development Corporation (Area and Constitution) Order 1987". Legislation.gov.uk. The National Archives. 1987.
  2.  Michael Boyce (Medi 1988). Select Committee on Welsh Affairs Minutes of Evidence - Memorandum by the Cardiff Bay Development Corporation. Adalwyd ar 9 Mawrth 2016.
  3. Auditor General for Wales (19 June 2001). "Securing the Future of Cardiff Bay" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2016-03-08.
  4. 4.0 4.1 "Cardiff Bay Development Corporation". The Official Documents Website. The Stationery Office. 18 December 1998.
  5. Darwent, Charles (1 April 1991). "UK: The taming of Tiger Bay. (1 of 2)". Management Today.
  6. Esys Consulting Ltd (December 2004). Evaluation of Regeneration in Cardiff Bay. A report for the Welsh Assembly Government.

Darllen pellach golygu

Dolenni allanol golygu