John Charles Jones
Esgob Bangor
Clerigwr Cymreig a fu'n Esgob Bangor o 1949 hyd ei farwolaeth oedd John Charles Jones (3 Mai 1904 - 13 Hydref 1956). Ganed ef yn Llansaint, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin, Prifysgol Caerdydd a Choleg Wadham, Rhydychen.
John Charles Jones | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mai 1904 Llan-saint |
Bu farw | 13 Hydref 1956 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad, cenhadwr |
Swydd | Esgob Bangor |
Treuliodd flwyddyn yn Neuadd Wycliffe, Rhydychen, cyn cael ei ordeinio'n offeiriad yn 1930. Bu'n giwrad yn Llanelli hyd 1933 yna yn Aberystwyth gyda chyfrifoldeb dros y myfyrwyr. Aeth yn genhadwr yn 1934, gan weithio yn y Bishop Tucker Memorial College, Mukono, Wganda.
Dychwelodd i Gymru yn 1945 fel ficer Llanelli, a chysegrwyd ef yn Esgob Bangor yn 1949, y tro cyntaf i'r seremoni hon gael ei chynnal yn Gymraeg.