John Cyrlas Williams
Arlunydd o dras Gymreig oedd John Cyrlas Williams (1902 – 3 Awst 1965) a aned yn yr UDA, yn fab i löwr. Daeth ei dad yn berchennog glofa a dychwelodd y teulu i Gymru gan fyw ym Mhorthcawl, ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym Mawrth 2016 cafwyd arddangosfa o'i waith yn Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, Pwllheli.[1] Roedd y teulu'n eithaf ariannog, ac yn ôl Peter Lord, mae hyn yn ei wneud yn hollol wahanol i artistiaid eraill o'r un cyfnod yng Nghymru.
John Cyrlas Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1902 Unol Daleithiau America |
Bu farw | 3 Awst 1965 |
Man preswyl | Porthcawl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd |
Yr arlunydd
golyguPeintiodd Williams ei lun cyntaf yn 1918, ac aeth i Goleg Newlyn ac oddi yno i Baris i astudio celf. Mae'r cyfan o'i waith wedi eu peintio pan oedd yn ei ddau-ddegau, gan iddo droi at y botel oherwydd problemau personol. Disgrifiwyd ei waith gan ei noddwr, y Rhyddfrydwraig Winifred Coombe Tennant, fel “the real thing”. Yn ei dridegau, trodd ei gefn yn llwyr ar beintio a daeth yn glerc mewn swyddfa.[2]
Seren wib
golyguNid oedd sôn am John Cyrlas Williams ar ôl y 1930au nes y darganfuwyd 150 o'i beintiadau mewn atig ym Mhorthcawl. Prynnodd yr arlunwyr Mike Jones a Peter Lord 60 ohonyn nhw er mwyn cadw goreuon y casgliad gyda'i gilydd. Pan gafwyd hyd i'r casgliad, daeth Williams yn ôl yn ffasiynol.[3] Pan bu farw yn 63 oed, nid oedd fawr o neb yn gwybod iddo unwaith fod yn arlunydd.
Mae'r lluniau'n dangos iddo ddilyn ôl troed Augustus John ac yn darlunio ei daith ar y cyfandir: Colarossi ym Mharis, Pont Aven yn Llydaw a Martigues yn Ne Ffrainc.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ bbc.co.uk; adalwyd Ebrill 2016.
- ↑ Gwefan Oriel Plas Glyn y Weddw; Archifwyd 2016-06-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd Ebrill 2016
- ↑ 3.0 3.1 dailypost.co.uk; adalwyd Ebrill 2016