Llanbedrog
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn ne-orllewin Llŷn, Gwynedd yw Llanbedrog ( ynganiad ). Mae'n gorwedd ar lan Bae Ceredigion tua hanner ffordd rhwng Pwllheli i'r dwyrain ac Abersoch i'r de. Rhed y ffordd A499 trwy'r pentref.
![]() | |
Math |
anheddiad dynol, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.8577°N 4.4848°W ![]() |
Cod SYG |
W04000068 ![]() |
Cod OS |
SH328318 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
- Am yr eglwys a phlwyf ger Penfro, gweler Llanbedrog, Sir Benfro.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]
Mae penrhyn Mynydd Tir y Cwmwd (343 troedfedd) yn ei gysgodi i'r de. O'r copa ceir golygfeydd braf dros Fae Ceredigion ac Ynysoedd Tudwal ac i fryniau Eryri yn y gogledd-ddwyrain.
Mae eglwys y plwyf yn bur hynafol. Fe'i cysegrir i Sant Pedrog. Eglwys un siambr hir ydyw, sy'n dyddio yn rhannol i'r 13g. Ychwanegwyd clochdy yn y 19g pan gafodd ei hatgyweirio'n sylweddol a'i thrawsnewid gan golli llawer o'i chymeriad hynafol. Mae'r bedyddfaen yn dyddio i'r 15g.
Mae traeth Llanbedrog yn ddeniadol ac yn boblogaidd gan ymwelwyr. I'r gogledd ceir craig isel Carreg y Defaid.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cysylltu Llanbedrog a Phwllheli.
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
EnwgionGolygu
- Huw Llŷn (bl. 1532 - 1594), bardd; brawd Wiliam Llŷn
- John Owen Williams (Pedrog) (1853-1932), bardd. Cafodd ei fagu'n blentyn amddifad yn Llanbedrog gan ei fodryb.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr