John Davies (Siôn Gymro)

gweinidog Annibynnol, ieithydd ac esboniwr

Gweinidog gyda'r Annibynwyr, ieithydd ac esboniwr oedd  Parchedig John Davies (5 Mawrth 180416 Rhagfyr 1884).

John Davies
Ganwyd5 Mawrth 1804 Edit this on Wikidata
Llanarth Edit this on Wikidata
Bu farw1884 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, ieithydd Edit this on Wikidata
Am y ddiwinydd Ffransisgaidd o'r 13 g gweler Siôn Gymro

Ganwyd ef yn fab i David a Mary Davies yn Bwlch-yr-helygen, Sir Aberteifi. Symudodd ei rieni yn fuan ar ôl ei enedigaeth i fferm gyfagos o'r enw Castell-y-geifr.[1][2] Bu farw Davies yn 1884 yn 80 oed, gan adael ei casgliad cynhwysfawr o draethodau personol a barddoniaeth gyda'r gweinidog Annibynnol a'r hanesydd - John Lloyd James (Clwydwenfro), un o gyn-ddisgyblion Davies.[3][4] Addysgwyd Davies gan ei dad i ddechrau, a chofrestrodd yn Ysgol Neuaddlwyd pan oedd yn 7 oed.

Yn 1822, pan oedd yn 18 oed, cafodd ei dderbyn i Goleg y Drenewydd o dan ofal Edward Davies. Roedd David ReesSamuel Roberts hefyd yn fyfyrwyr yno bryd hynny. Meistrolodd Davies elfennau Hebraeg, Syrieg, Aramaeg, Groeg, Lladindiwinyddiaeth. Derbyniodd alwad gan yr Eglwys Annibynnol yn Glandŵr, Sir Benfro, am 6 mis yn y lle cyntaf, a chafodd ei ordeinio ar 28 Mawrth 1827. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, sefydlodd eglwys Moriah, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, ond arhosodd yn Glandŵr tan 1863. Pan gadawodd Glandŵr ar ol 35 mlynedd o wasanaeth, sefydlwyd Davies yn eglwys Moriah, ac arhosodd yno tan ei farwolaeth. Bu'n gadeirydd Undeb Annibynwyr Cymru o 1873.[5]

Cedwir Casgliad Davies yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'n cynnwys dros 70 eitem o ohebiaeth bersonol, traethodau, dyddiaduron, pregethau, cyfieithiadau o ddarnau o'r Testament Newydd, ynghyd â sylwebaeth, barddoniaeth, darlithoedd, almanaciau, a phapurau amrywiol. Yn ogystal â chasgliad Davies, ceir Albwm 'Clwydwenfro', a gasglwyd ynghyd gan un o fyfyrwyr ac edmygwyr Davies, y Parchg John Lloyd James (Clwydwenfro). Mae'r albwm yn cynnwys cannoedd o eitemau perthnasol i fywyd a gwaith Davies, y mwyafrif yn llythyrau, llyfrau, cofrestri eglwys, cofnodion cyfrifon, pregethau, barddoniaeth a cherddoriaeth.[6]

Defnyddiau Davies y ffugenw Shôn Gymro (neu Siôn) yn ei ysgrifau. Roedd ei enwau eraill yn cynnwys Castellanus, yn arbennig mewn gohebiaeth Saesneg, a Shôn Llethi (neu Siôn). Yr enw a gofnodwyd ar ei farwolaeth oedd "John Glandwr Davies", sy'n awgrymu ei fod hefyd yn cael ei adnabod fel "Glandwr", ar ôl y pentref y bu'n weinidog ynddo.

Cyfeiriadau golygu

  1. DAVIES, JOHN (1804 - 1884), gweinidog Annibynnol, ieithydd ac esboniwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 7 Ebr 2020
  2. Davies, Ben (1938). "Shon Gymro", Lewis Gwasg Gomer. ASIN: B002A6YD46
  3. "Album of 'Clwydwenfro', - National Library of Wales Archives and Manuscripts". library.wales. Cyrchwyd 2017-01-23.
  4. Roberts, T. R., & Williams, R. (1908). Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen who have attained distinction from the earliest times to the present (Vol. 1). Educational Publishing Co. 1908
  5. "John Davies, Ietwen, manuscripts, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". library.wales. Cyrchwyd 2017-01-23.
  6. "Almanaciau - National Library of Wales Archives and Manuscripts". library.wales. Cyrchwyd 2017-01-23.