Ysgol Neuaddlwyd

sefydliad addysgol yn Sir Aberteifi yn hanner cyntaf y 19g

Sefydliad addysgol yn Sir Aberteifi yn hanner cyntaf y 19g oedd Ysgol Neuaddlwyd (hefyd Academi Neuaddlwyd). Roedd yr ysgol yn cael ei chynnal mewn adeilad bychan dwy ystafell ar dir fferm Penybanc, rhwng pentrefi Ffos-y-ffin a Neuaddlwyd heb fod ymhell o Ddyffryn Aeron. Dywedir bod dros 200 o fyfyrwyr wedi astudio yn yr ysgol dros gyfnod o tua 30 mlynedd, gan gynnwys pedwar o'r cenhadon a aeth i Fadagasgar.

Ysgol Neuaddlwyd
Mathadeilad, ysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 19 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.217622°N 4.271323°W Edit this on Wikidata
Map

Yng ngwanwyn 1810, penderfynodd gweinidogion yr Annibynwyr sefydlu ysgol ramadegol a diwinyddol i baratoi gwyr ifanc ar gyfer parhau eu haddysg mewn sefydliadau yng ngholegau Caerfyddin, Wrecsam neu Loegr a’u cymhwyso ar gyfer y weinidogaeth. Roedd gweinidog Eglwys Annibynnol Neuaddlwyd, Thomas Phillips wedi codi bwthyn dwy ystafell ar ei dir, gyda tho gwellt a muriau pridd iddo, gyda’r bwriad o gael rhywun i addysgu ei blant ei hun, a phenderfynwyd defnyddio’r adeilad hwnnw ar gyfer yr ysgol newydd, gan neilltuo un ystafell i hyfforddi’r pregethwyr a’r llall i addysgu’r plant.

Ysgol Neuaddlwyd, ger Ffos-y-ffin, Sir Aberteifi, tua 1880.

Gwahoddwyd y Parchedig John Maurice, mab hynaf y Parchedig Phillip Maurice, a fu'n weinidog ar eglwysi Annibynnol Tynygwndwn a Chilcennin, i fod yn athro'r ysgol. Er bod John Maurice yn cael ei ystyried yn gymwys ar gyfer y gwaith, mae’n debyg nad oedd yn gysurus i gymryd gofal o’r ysgol ei hun, a’i fod am i weinidog hŷn nag ef i roi’r hyfforddiant diwinyddol. Cytunodd Phillips i’w gynorthwyo a dechreuodd yr ysgol newydd ar ei gwaith ar 15 Hydref 1810.

Erbyn Pasg 1811, tua chwe mis ar ôl agor yr ysgol, bu farw Maurice o’r ddarfodedigaeth. Parhaodd Phillips â’i waith fel unig athro'r ysgol gyda chymorth achlysurol gan ddau o’i fyfyrwyr, John Rowlands, Cwmllynfell, a Samuel Thomas, Pantswllt. Cafodd hefyd gymorth am gyfnod byr gan David Davies, un o blant yr eglwys yn Neuadd-lwyd a fu hefyd, fel Phillips, yn astudio yng Nghastell Hywel ac Athrofa Caerfyrddin. Parhaodd Thomas Phillips i gynnal yr ysgol ar ei ben ei hun wedi hynny, gyda chymorth y myfyrwyr hynaf. Mae’n bosibl bod y drefn hon yn seiliedig ar y ‘Cynllun Lancastrian’ a ddatblygwyd gan Joseph Lancaster ar ddechrau’r 19eg ganrif. Arwyddair Lancaster oedd ‘Qui docet, discit’ (A ddysger, a ddysgo), a’r cynllun hwnnw, gyda’i bwyslais ar allu’r myfyriwr i drosglwyddo’r wybodaeth i eraill, oedd i’w ddefnyddio gan y cenhadon wedi iddynt gyrraedd Madagasgar yn 1818.

Roedd yr ysgol yn rhad i’w mynychu ac felly o fewn cyrraedd y bechgyn o gefndir tlawd, pe dymunent dderbyn addysg. Byddai nifer yn lletya gyda ffermydd yr ardal, a oedd hefyd yn rhesymol, a gallai rhai ohonynt ennill peth cynhaliaeth trwy bregethu ar y Suliau, fel y gwelwyd yn achos Dihewyd a Phencae. Bechgyn a fagwyd gydag eglwysi Annibynnol oedd y mwyafrif a fynychai’r ysgol, ond roeddynt hefyd yn cynnwys Bedyddwyr, Methodistiaid Calfinaidd, Wesleyaid ac Eglwyswyr. Aeth nifer o’r myfyrwyr ymlaen i wasanaethu fel gweinidogion a phregethwyr lleyg yng Nghymru. Aeth rhai i Loegr, ambell un i Ffrainc, ac un i Tahiti. Mae’n bosib mai’r mwyaf adnabyddus o gynfyfyrwyr yr ysgol oedd y cenhadon a aeth i Fadagascar ac a gafodd ddylanwad mor eang yno, sef David Jones, Thomas Bevan, David Griffiths a David Johns.

Mae'n ymddengos bod perthynas Thomas Phillips â’i fyfyrwyr yn gyd-bwysedd iach o awdurdod ac agosatrwydd, o ddisgyblaeth a hwyl. Medrai gadw rheolaeth ar blant heb fod yn llawdrwm, ac ennyn eu parch. Penodid ‘monitor’ yn wythnosol o blith y myfyrwyr i’w gynorthwyo i gadw trefn ar y disgyblion eraill yn yr ysgol. Byddai’r monitor yn dirwyo’r rhai oedd yn siaradus neu’n cadw twrw, a defnyddid yr arian hwnnw i brynu tybaco i’w hathro. Caniateid i’r myfyrwyr fynd i Ffair Llanarth, ar yr amod eu bod yn dod ag anrhegion i Phillips. Yn ôl William Griffiths: ‘Yr oedd rhywbeth ynddo mor hynodol ag oedd yn tynu yr holl ysgolheigion i’w garu a’i ofni yr un pryd.’

Nid oes sicrwydd pa bryd yn union y caeodd yr ysgol ei drysau am y tro olaf. Nid oes son bod unrhyw un wedi olynu Thomas Phillips fel athro a gallwn dybio felly ei bod wedi dod i ben gyda’i ymddeoliad.

Myfyrwyr a astudiodd yn Ysgol Neuaddlwyd golygu

John Williams, Llynddu, Post Mawr.

Darllen pellach golygu

  • M. Rees, Cofiant Thomas Phillips, Neuadd-lwyd (1845)
  • G. Dyfnallt Owen, Ysgolion a Cholegau yr Annibynwyr (1939)