John Edward Jones
ysgrifennydd a threfnydd Plaid Cymru
Gwleidydd a fu'n un o ffigyrau amlycaf Plaid Cymru yn ei chyfnod cynnar oedd John Edward Jones, mwy adnabyddus fel J. E. Jones (10 Rhagfyr 1905 - 30 Mai 1970). Bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol y blaid rhwng 1930 a 1962.
John Edward Jones | |
---|---|
Ganwyd | 10 Rhagfyr 1905, 1905 ![]() |
Bu farw | 30 Mai 1970 ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Ganed ef ym Melin y Wig yn yr hen Sir Feirionnydd. Bu farw ei dad cyn iddo fod yn flwydd oed. Aeth i Ysgol Ramadeg y Bala, 1918-24, yna i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor, lle bu'n ysgrifennydd Undeb y Myfyrwyr. Roedd yn un o sylfaenwyr "Cymdeithas y tair G", un o'r sefydliadau a unodd i greu Plaid Cymru yn Awst 1925.
Wedi cyfnod yn Llundain, daeth yn ysgrifennydd a threfnydd y Blaid Genedlaethol yn 1930, a threfnodd lawer o ymgyrchoedd yn y swydd yma. Rhoddodd y gorau i'r swydd oherwydd afiechyd yn 1962.
Cyhoeddiadau
golygu- Llyfr garddio (Llandybie: Llyfrau'r Dryw, 1969)
- Tros Gymru : J.E. a'r blaid (Abertawe: Gwasg John Penry, 1970)