Melin y Wig

pentref rhwng Rhuthun a Chorwen, Sir Ddinbych

Mae Melin y Wig ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn bentref bychan gwledig yn ne Sir Ddinbych, ger Coedwig Clocaenog, ar lan Afon Clwyd. Mae 107.4 milltir (172.8 km) o Gaerdydd. Dwy filltir i'r de ohono mae Betws Gwerful Goch a phedair milltir i'r gorllewin mae Llanfihangel Glyn Myfyr. Yn hanesyddol mae'n ran o blwyf Gwyddelwern.[1]

Melin y Wig
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBetws Gwerful Goch Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.027069°N 3.433763°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map
Melin y Wig: y felin sy'n rhoi ei enw i'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[2][3]

Hwiangerdd golygu

Efallai fod y pentref yn fwyaf adnabyddys am i'w enw ymddangos yn yr hen hwiangerdd:

Bachgen bach o Felin y Wig,
Welodd o 'rioed damaid o gig;
Gwelodd falwen ar y bwrdd,
Cipiodd ei gap, a rhedodd i ffwrdd.

Ymysg cyn-drigolion y pentref mae John Edward Jones, cyn-ysgrifennydd a threfnydd Plaid Cymru.[4]

Cyfeiriadau golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato