John Evan Davies (Rhuddwawr)
Ganwyd John Evan Davies (enw barddol: Rhuddwawr) ym Maes-yr-adwy, Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin yn 1850. Addysgwyd yn ysgol ramadeg Llandeilo-fawr (adnebir bellach fel Llandeilo), yn Coleg Fethodistaidd Trefeca yn Nhrefeca, ac yn Glasgow, lle'r oedd yn ‘Ysgolor y Dr. Williams’ (1876) gan radd yn 1880. Wedi gweinidogaethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llanelli, bu yn Eglwys Jewin (Llundain) o 1886 hyd 1911,[1] yna'n fugail yn Llandeilo a Llanelli; bu farw yn Nhre-Gŵyr, 19 Hydref 1929. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r Deheudir yn 1901-2, ac yn ‘Ddarlithydd Davies’ yn 1916.
John Evan Davies | |
---|---|
Ffugenw | Rhuddwawr |
Ganwyd | 1850 Cymru |
Bu farw | 19 Hydref 1929 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, llenor, bardd |
Sgrifennai lawer i'r Genhinen, a bu'n olygydd ar y Negesydd Cymreig [2] newyddlen wythnosol Gymraeg i Gymry Llundain, a dug allan Gyfrol Goffa James Hughes, 1911, a llyfrau eraill. Cystadleuai'n fynych mewn eisteddfodau, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 1903, enillodd y goron am ei gerdd ar Y Ficer Pritchard. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth yn gyfrol, Blodau'r Grug, 1922. Bu farw yn 1929.