John Evans (dyn hynaf)
John Evans (19 Awst 1877 — 10 Mehefin 1990), oedd y dyn hynaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru ac yn Ynys Prydain, hyd i Henry Allingham yn 2013.[1] Rhwng diwedd 1988 a'i farwolaeth, ef oedd y dyn hynaf yn y byd.
John Evans | |
---|---|
Ganwyd | 19 Awst 1877 yr Ymerodraeth Brydeinig |
Bu farw | 10 Mehefin 1990 Abertawe |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | mwynwr, person dros ei gant oed |
Ganed John Evans yn Fforestfach, Sir Abertawe. Bu John Evans yn löwr cyn ymddeol. Cafodd ei gydnabod fel y person hynaf erioed yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon (hyd y gwyddir i sicrwydd) pan dorrodd record John Mosely Turner o Loegr, a fu farw ar 21 Mawrth 1968 yn 111 a 279 diwrnod. O 25 Tachwedd 1988, John Evans oedd y dyn byw hynaf yn y byd. Bu farw yn 112 a 295 diwrnod oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Veteran is UK's oldest ever man. BBC (29 Mawrth 2009). Adalwyd ar 12 Gorffennaf 2013.