John Evans (gwleidydd Columbia Brydeinig)

Roedd John Evans (25 Ionawr 181625 Awst 1879) yn fwynwr aur Cymreig a wasanaethodd fel Aelod o Gynulliad Deddfwriaethol cyntaf trefedigaeth Canada.[1]

John Evans
John Evans (eistedd) a'i fab Tal o Eifion
Ganwyd25 Ionawr 1816 Edit this on Wikidata
Machynlleth Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 1879 Edit this on Wikidata
Stanley Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Canada Canada
Galwedigaethgwleidydd, mwynwr Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Evans ym Machynlleth Sir Drefaldwyn.

Bu'n briod tair gwaith. Ym 1840, priododd Martha Evans ym Machynlleth, bu hi farw yn ifanc ychydig ar ôl y briodas. Ym 1842, priododd Ann Thomas, bu iddynt tri mab a dwy ferch. Bu Ann farw ym 1866. Priododd ei drydedd wraig Catherine Jones yn Victoria, British Columbia ar 24 Ebrill 1877.[1]

Bu Evans yn gweithio fel dyn ifanc ym Manceinion, ond yn 1854, er mwyn rhoi magwraeth Gymreig i'w blant, symudodd i Dremadog, lle'r oedd ganddo ddiddordeb mewn sawl chwarel fach.[2]

Ym 1863 ymfudodd i Columbia Brydeinig i arwain ymdrechion i ddod o hyd i aur yn rhanbarth y Cariboo.[3] Cynigiodd Henry Beecroft Jackson, gwneuthurwr cotwm cyfoethog o Fanceinion, ariannu'r prosiect am ddwy flynedd. Byddai'r holl elw yn cael ei rannu. Byddai hanner yn mynd i'r dynion mewn cyfraniadau cyfartal a'r hanner arall yn cael ei rannu rhwng Evans a'i noddwr. Dewisodd Evans 26 o fwynwyr parchus o ogledd Cymru, gan gynnwys ei ail fab Taliesin (Tal o Eifion), i fynd gydag ef.[4]

Wedi gwneud cais am brydles mwyngloddio ar Lightning Creek, teithiodd ef a'i ddynion i safle presennol Stanley, Colombia Brydeinig, lle sefydlwyd cwmni “Basford Mines” ganddynt. Methodd y fenter. Erbyn i gontract y dynion ddod i ben ar 1 Hydref 1864 roedd wyth dyn eisoes wedi gadael y fenter ac roedd Evans wedi adennill dim ond gwerth $450 o aur am wariant o dros $26,000.[5] Dychwelodd y rhan fwyaf o'r cwmni i Gymru, ond arhosodd eu harweinydd ymlaen hyd ei farwolaeth, gan geisio datblygu prydlesi ar Antler a Davis, gan weithio fel syrfëwr mwyngloddio a thiroedd yn ardal y Cariboo, ac yn byw mewn gobaith ofer byddai rhywbeth yn dod fyny'n hwyr neu'n hwyrach. Ond ni allai fforddio ei ddymuniad o anfon am ei wraig a'i blant a adawyd ar ôl yng Nghymru.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Cyn gynted ag y cyrhaeddodd Lightning Creek, gofynnwyd i Evans sefyll etholiad i Gyngor Deddfwriaethol cyntaf y diriogaeth. Cydsyniodd, yn bennaf er mwyn pwyso am ddiwygio'r deddfau mwyngloddio. Doedd y deddfau ddim yn amddiffyniad y sawl oedd â digon o gyfalaf i ddechrau ar fenter ar raddfa fawr. Dim ond mwynwyr unigol allai wneud cais am brydles. Wedi cael prydles roedd yr unigolyn yn rhydd i'w waredu yn ôl e ddewis. Felly roedd Evans yn cael ei orfodi naill ai i roi ei hun ar drugaredd ei weithwyr trwy gofnodi teitlau yn eu henwau, neu i brydlesu tir a adawyd gan fwyngloddwyr oedd wedi ymadael. Fe'i trechwyd yn etholiadau 1863, 1865, a 1871. Ond ym 1875 etholwyd ef i Gynulliad Deddfwriaethol y dalaith, ac fe'i hail-etholwyd ym 1878. Datganodd nad oedd am fod yn “ddyn unrhyw blaid”, ond i weithredu yn y Cynulliad yn ôl ei gydwybod.[1]

Roedd Evans yn Anghydffurfiwr pybyr. Roedd wedi gobeithio rhoi rhan o'i elw o gloddio am aur i Gapel Annibynwyr Cymraeg Booth Street, Manceinion. O herwydd ei ffydd roedd yn gwneud ei orau i wella moesau ac ymddygiad yn y Cariboo. Roedd yn gwgu ar yfed, gamblo a rhegi ac ni fyddai'n caniatáu i'w ddynion weithio na theithio ar ddydd Sul.[1]

Ym 1866 adeiladodd ef a Chymry eraill y Cambrian Hall yn Barkerville, lle cynhaliwyd gwasanaethau crefyddol, cyfarfodydd llenyddol a dathliadau Dydd Gŵyl Dewi nes iddo gael ei ddinistrio gan dân ym 1868.[6]

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn Stanley yn 63 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y dref.[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Dorothy Blakey Smith, “EVANS, JOHN,” in Dictionary of Canadian Biography, vol. 10, University of Toronto/Université Laval, 2003– adalwyd 22 Gorffennaf 2019
  2. "ADGOFION IEUENCTYD gan Tal o Eifion- Y Drych". Mather Jones. 1885-03-12. Cyrchwyd 2019-07-22.
  3. "NEWYDDION O CARIBOO COLUMBIA PRYDEINIG - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1864-02-27. Cyrchwyd 2019-07-22.
  4. "NODION PERSONOL - Y Drych". Mather Jones. 1885-04-02. Cyrchwyd 2019-07-22.
  5. CAPTAIN EVANS & HIS COMPANY OF WELSH ADVENTURERS Archifwyd 2019-07-23 yn y Peiriant Wayback adalwyd 22 Gorffennaf 2019
  6. "ICARIBOO GŴYL DEWI - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1869-05-22. Cyrchwyd 2019-07-22.
  7. Cemetery at Stanley, BC; graves of Captain John Evans, leader of the Welsh Brigade, and of Harry Jones, one time MLA for the Cariboo. adalwyd 22 Gorffennaf 2019