Tremadog

pentref yng Ngwynedd

Pentref yng nghymuned Porthmadog, Gwynedd, Cymru, yw Tremadog[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Tremadoc gynt). Saif tua 1 filltir i'r gogledd o ganol tref Porthmadog.

Tremadog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPorthmadog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9392°N 4.1447°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH561401 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Yn anarferol, mae cynllun pendant i'r pentref: fe'i sefydlwyd gan William Madocks, wedi iddo brynu'r tir ym 1798. Cwblhawyd canol y pentref ym 1811, ac ychydig iawn mae o wedi newid ers hynny. Mae sawl adeilad o ddiddordeb pensaernïol yn y pentref, gan gynnwys Capel Peniel, a adeiladwyd ar batrwm teml Roegaidd. Bwriad Maddocks oedd i Dremadog fod yn dref lawer iawn yn fwy, ac yn ganolbwynt masnachol. Bwriadodd hefyd i'r dref fod yn fan aros i gerbydau oedd ar eu ffordd i Borth Dinllaen i groesi i Iwerddon. Ond nid felly y bu, gan i Gaergybi gymryd lle Porth Dinllaen yn brif borthladd. Wedi adeiladu'r Cob a llenwi'r Traeth Mawr, fe dyfodd Porthmadog yn hytrach na Thremadog, a phentref cymharol fach yw Tremadog hyd heddiw.

 
Sgwâr Tremadog

Mae un ysgol yn Nhremadog, sef Ysgol y Gorlan, ysgol gynradd yw hon a bydd y plant yn mynd ymlaen i Ysgol Eifionydd, Porthmadog wedi cwblhau blwyddyn 6 yn y system addysgol. Bu Ysgol Steiner ym Mhlas Tan-yr-Allt o 1985 hyd tua 2000, sef Ysgol Steiner Eryri.

Eisteddfod

golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol anffurfiol yma ym 1872.

Enwogion

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 28 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-28.
  4. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato