John Ford (cyfarwyddwr ffilm)
Cyfarwyddwr ffilm Americanaidd oedd John Ford (ganed John Martin Feeny; 1 Chwefror 1894 – 31 Awst 1973)[1] sydd yn nodedig am ei ffilmiau yn genre'r Gorllewin Gwyllt, gan gynnwys Stagecoach (1939) a The Searchers (1956), a'i addasiadau o nofelau megis The Grapes of Wrath (1940) a How Green Was My Valley (1941). Gweithiodd yn aml gyda'r actor John Wayne.
John Ford | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
1 Chwefror 1894 ![]() Cape Elizabeth ![]() |
Bu farw |
31 Awst 1973 ![]() Achos: canser y stumog ![]() Palm Desert ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth |
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, swyddog yn y llynges, sgriptiwr, actor ffilm ![]() |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad |
The Plow That Broke the Plains ![]() |
Plant |
Barbara Ford ![]() |
Gwobr/au |
Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Purple Heart, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Gwobr y Llew Aur am Gyflawniadau Gydol Oes, National Board of Review Award for Best Film ![]() |
Enillodd bedair Gwobr yr Academi am Gyfarwyddwr Gorau: The Informer (1935), The Grapes of Wrath, How Green Was My Valley, a The Quiet Man (1952).
Bywyd cynnarGolygu
Ganed John Martin Feeny ar 1 Chwefror 1894 yn Cape Elizabeth, Maine, yn fab i Sean O'Feeney a'i wraig Barbara (Curran gynt). Ymfudwyr o Galway oedd ei rieni, a llongwr oedd Sean.[2] Yn ddiweddarach yn ei fywyd, bu'n aml yn Gwyddeleiddio'i enw i Sean Aloysius O’Feeney neu O’Fearna.[1] Fe'i magwyd yn Portland, Maine, ac yn ei arddegau gweithiodd ar lwythlongau yn ystod gwyliau'r haf. Methodd â'i derbyn i Academi Lyngesol yr Unol Daleithiau yn Annapolis, Maryland, felly aeth ym 1914 aeth i Hollywood lle'r oedd ei frawd hŷn yn gyfarwyddwr ac yn actor dan yr enw Francis Ford.[2]
Gweithiodd John yn arolygwr celfi, styntiwr beic modur, dyn camera cynorthwyol, a grip ar setiau ffilmiau Francis, a bu hefyd yn chwarae mân rannau ac yn cyfrannu at sgriptiau, a dysgodd grefft y sinema, yn enwedig gwaith camera a thechnegau golygu. Cafodd ei alw yn Jack Ford, ac felly mabwysiadodd yr enw John Ford pan ddechreuodd wneuthur ffilmiau ei hun.[2]
Y cyfnod mudGolygu
Y ffilm gyntaf i John Ford ei chyfarwyddo oedd The Tornado (1917).
Diwedd ei oesGolygu
Bu farw John Ford ar 31 Awst 1973 o ganser yn ei gartref yn Palm Desert yn ne Califfornia, yn 79 oed.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) John Ford (American director). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Tachwedd 2020.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Albin Krebs, "John Ford, the Movie Director Who Won 5 Oscars, Dies at 78", The New York Times (1 Medi 1973). Adalwyd ar 8 Tachwedd 2020.