John Griffiths (Archddiacon Llandaf)
Rheithor ac Archddiacon Llandaf o 1877 i 1897 oedd John Griffiths, BD (1820–1897),[1] a fu hefyd yn Rheithor Castel-Nedd[2] .
John Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mai 1820 Ciliau Aeron, Aberaeron |
Bu farw | 1 Medi 1897 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | clerig, addysgwr |
Ganed John Griffiths ym Mharc-y-neuadd, ger Aberaeron, Sir Aberteifi.[3]
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbed. Daeth yn brifathro Ysgol Ramadeg Aberteifi a bu'n Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru chwe gwaith.[4]
Gyrfa
golyguUrddwyd ef yn ddiacon yn 1843 a'i drwyddedu i guradiaeth Aberystruth, Sir Fynwy, a derbyniodd urddau offeiriad yn 1844. Bu'n gurad wedyn yn Nant-y-glo, ac yn 1846 penodwyd ef yn ficer Llansanwr, Sir Forgannwg; yn 1847 derbyniodd reithoraeth Eglwys Fair y Mynydd yn ogystal. Yn 1855 penodwyd ef yn rheithor Castell Nedd, a daliodd y swydd honno hyd 1896. Yn 1877 penodwyd ef yn archddiacon Llandaf a rhoddwyd iddo radd B.D. gan archesgob Caergaint.
Bu'n archddiacon Llandaf hyd ei farw ar 1 Medi 1897.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Erthygl goffa Archddiacon Griffiths, The Times (Llundain, Lloegr), dydd iau, Medi 02, 1897; tud. 8; Mater 35298
- ↑ "WEbtrees". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2017-11-16.
- ↑ Ellis, Thomas Iorwerth (1953). "Y Bywgraffiadur Cymreig". LlGC. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2017.
- ↑ 'GRIFFITHS, Ven. John', A Oedd yn A, & C Black, argraffnod o Bloomsbury Publishing plc, 1920-2007; ar-lein argraffiad, Gwasg Prifysgol Rhydychen, Rhagfyr 2007 adalwyd 14 Chwefror 2014