John Iltyd Nicholl
Roedd John Iltyd Nicholl (21 Awst 1797 – 27 Ionawr 1853) yn dirfeddiannwr, yn gyfreithiwr ac yn wleidydd Ceidwadol a chynrychiolodd etholaeth Caerdydd yn y Senedd rhwng 1832 a 1852.[1]
John Iltyd Nicholl | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 21 Awst 1797 ![]() Llan-faes ![]() |
Bu farw | 27 Ionawr 1853 ![]() Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol, Tori ![]() |
Cefndir
golyguRoedd Nicholl yn fab i John Nicholl, Ystâd Merthyr Mawr, Pen-y-bont ar Ogwr; barnwr amlwg ac aelod seneddol dros nifer o etholaethau poced yn Lloegr a Judy (née Birt) ei wraig.[2]
Cafodd ei addysgu yn ysgol Westminster a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf yn y clasuron ym 1822, Bagloriaeth yn y Gyfraith Cyffredin 1823 a Doethuriaeth yn y Gyfraith Cyffredin ym 1826.[3]
Ym 1821[4] priododd Jane Harriet, merch Thomas Mansel Talbot (a brawd Christopher Rice Mansel Talbot AS Sir Forgannwg 1830 – 1890), bu iddynt 7 o blant.
Gyrfa
golyguFe'i galwyd i'r Bar yn Lincoln's Inn ym 1824 a daeth i feddiant yr ystâd deuluol ar farwolaeth ei dad ym 1838
Rhwng 1838 a 1841 bu'n gwasanaethu fel Ficer Cyffredinol a Meistr y Cyfadrannau Talaith Caergrawnt, swydd gyfreithiol yn Eglwys Loegr yn ymwneud â rhwymiadau priodas, penodi notarïaid cyhoeddus, tyngu llwon, dyfarnu ar gyfraith claddu a chynnig cyngor cyfreithiol i'r Archesgob.
Gwasanaethodd fel Barnwr Adfocad Cyffredinol y Lluoedd Arfog (pennaeth y system Llys Farsial) rhwng 1841 a 1846.[5]
Gyrfa Wleidyddol
golyguSafodd fel ymgeisydd Ceidwadol Marchnad Rhydd yn etholiad cyffredinol 1832 gan guro'r ymgeisydd Rhyddfrydol Yr Arglwydd Crichton Stewart yn gyffyrddus, gan dal y sedd yn ddiwrthwynebiad hyd etholiad 1852 pan gollodd i'r ymgeisydd Rhyddfrydol Walter Coffin.
Gwasanaethodd fel Arglwydd Comisiynydd y Trysorlys rhwng mis Mawrth ac Ebrill 1835.
Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1841.
Marwolaeth
golyguWedi colli ei sedd seneddol aeth ar daith i'r Eidal a bu farw yn Rhufain yn 55 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Campo Cestio, Rhufain (y fynwent i estroniaid nad ydynt yn Gatholigion – lle claddwyd y beirdd Keats a Shelley hefyd). Mae llun o'i fedd i'w gweld ar wefan Find a Grave [6], ac mae cofadail iddo yn Eglwys Gadeiriol Llandaf
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Members for Cardiff - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1891-10-03. Cyrchwyd 2016-01-24.
- ↑ Y Bywgraffiadur NICHOLL, JOHN (1797 - 1853) [1] adalwyd 24 Ionawr 2016
- ↑ Page:Alumni Oxoniensis (1715-1886) volume 3.djvu/246. (2015, August 14). In Wikisource. Retrieved 03:38, January 24, 2016, from https://en.wikisource.org/w/index.php?title=Page:Alumni_Oxoniensis_(1715-1886)_volume_3.djvu/246&oldid=5584557
- ↑ Wales, Glamorgan Parish Registers, 1558-1900," database, FamilySearch : adalwyd 24 Ionawr 2016, John Nicholl & Jane Harriet Talbot, 1821; Marriage, citing Penrice, Glamorgan, Wales, Glamorgan Family History Society, Cardiff.
- ↑ Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895, comprising lists of the representatives, chronologically arranged under counties, with biographical and genealogical notices of the members, together with particulars of the various contested elections, double returns and petitions [2] adalwyd 24 Ionawr 2016
- ↑ Find a Grave John Nicholl [3] adalwyd 24 Ionawr 2016
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Patrick Crichton-Stewart |
Aelod Seneddol Caerdydd 1832 – 1852 |
Olynydd: Walter Coffin |