Walter Coffin
arloesydd glofeydd
Diwydiannwr arloesol a gwleidydd o dde Cymru oedd Walter Coffin (1784 - 15 Chwefror 1867).
Walter Coffin | |
---|---|
Walter Coffin | |
Ganwyd | 1784 Pen-y-bont ar Ogwr |
Bu farw | 15 Chwefror 1867 Llandaf |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd, diwydiannwr |
Swydd | Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Ganed Coffin yn 1784 yn Penybont-ar-Ogwr, Sir Forgannwg. Yn 1807 prynodd fferm o'r enw Dinas Rhondda (ar safle pentref Dinas Rhondda heddiw) yng Nghwm Rhondda. Yno yr agorodd y pwll glo dwfn cyntaf yng Nghwm Rhondda, yn 1811, ar lan afon Rhondda gyferbyn â gorsaf trenau Dinas Rhondda heddiw. Glo bitwmen a gloddid.
Yn nes ymlaen yn ei yrfa daeth yn un o gyfarwyddwyr Rheilffordd Dyffryn Taf. Yn 1852 cafodd ei ethol dros y Rhyddfrydwyr yn Aelod Seneddol Caerdydd. Undodiad oedd Coffin, ac ef oedd yr Anghydffurfiwr cyntaf i gael ei ethol yn AS yng Nghymru. Golygai ei fuddugoliaeth ddiwedd ar deyrnasiad gwleidyddol teulu Bute hefyd.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Davies, Hanes Cymru (1990), tud. 413.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Iltyd Nicholl |
Aelod Seneddol dros Gaerdydd 1852 – 1857 |
Olynydd: James Crichton-Stuart |