John Ingleby

arlunydd

Arlunydd topograffyddol a arbenigai mewn cynhyrchu golygfeydd bychain mewn dyfrlliw oedd John Ingleby (17491808). Brodor o Helygain, Sir y Fflint, ydoedd a chyhoeddwyd ei waith fel darluniau yng nghyfrolau Thomas Pennant (1726-1798). Bu farw yn 1808 yn ei fro enedigol a noda cofnodion y plwyf ei alwedigaeth fel 'limner'. Roedd 'limner' yn enw a roid ar grefftwyr oedd yn gweithio ar raddfa fechan, efallai ar ddarluniau miniatur, ac yn dynodi arlunydd-grefftwr oedd wedi sefydlu enw iddo'i hun.[1]

John Ingleby
Ganwyd1749 Edit this on Wikidata
Helygain Edit this on Wikidata
Bu farw1808 Edit this on Wikidata
Helygain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPaentiadau dyfrlliw gan John Ingleby Edit this on Wikidata
MudiadÔl-argraffiaeth Edit this on Wikidata

Gwelir crefft Ingleby ar ei orau yn ei drefluniau bychain lle mae ei allu i nodi manylion pitw wedi rhoi inni gofnodion unigryw a phwysig o fywyd trefol Gogledd Cymru. Nodweddir ei ddarluniau gan liwio gwastad mewn dyfrlliw ysgafn tryloyw.

Rhestr o luniau golygu

Mae mwyafrif y gwaith a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn darlunio golygfeydd yng Ngogledd Cymru. Dyma'r casgliad:

Rhestr Wicidata:

Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: