John Jones (Ioan Tegid)
Bardd, orthograffydd a gweinidog oedd John Jones (10 Chwefror 1792 – 2 Mai 1852), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol "Tegid" neu "Ioan Tegid". Fe'i ganed ac fe'i magwyd yn Y Bala yn yr hen Sir Feirionnydd, (de Gwynedd erbyn hyn).[1]
John Jones | |
---|---|
Ffugenw | Ioan Tegid |
Ganwyd | 10 Chwefror 1792 y Bala |
Bu farw | 2 Mai 1852 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd |
Adnabyddus am | A ballad by John Jones (Tegid), "Anffaeledigrwydd y Pab! |
Cefndir
golyguGanwyd Ioan tegid yn Llanycil, ar lan Llyn Tegid, oddi wrth yr hwn y cymerodd ei enw barddonol. Enw ei rieni oedd Henry Jones [2] a Catherine Jones. Roedd yn un o bedwar o blant:
ARDEB fy mam, fwynfam fach,
Gwiw lun! ni bu ei glanach;
Mam ELEN, mam GWEN :-ei gwedd!
Rhifyr hwn, yn llun rhyfedd;
Mam fad Offeiriad y Ffydd,
A'r difyr Banker Dafydd.[3]
Addysg
golyguCafodd addysg dda yn ieuanc, (sydd yn awgrym bod ei deulu yn un weddol gefnog) Ym 1812 aeth i Gaerfyrddin, i ysgol y Parch. D. Peter, . Ym 1813 aeth i ysgol y Parch. D. Price, yn yr un dref, lle y bu 18 mis. Ym 1814 aeth i Goleg yr Iesu Rhydychen, lle cafodd gradd BA ym 1818. [4]
Gyrfa
golyguYm 1819 cafodd ei ordeinio'n ddiacon yn Eglwys Lloegr cafodd ei urddo yn ddiacon ac offeiriad a'i benodi i gaplaniaeth Eglwys Crist, Rhydychen. Fei a benodwyd yn brif gantor yn Eglwys Crist ym 1823 a churadiaeth barhaus St Thomas yn yr un ddinas, lle y bu yn gweinidogaethu am 18 mlynedd. Yn Awst, 1841, penodwyd ef i ficeriaeth Nanhyfer, yn Sir Benfro; ac ym 1848 fe'i dyrchafwyd yn beriglor yn Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi.
Marwolaeth
golyguBu farw ym mhersondy Nanhyfer yn 61ain oed o'r dyfrglwyf (oedema) a'i gladdu yn eglwys ei blwyf[5]
Gwaith llenyddol
golyguCeisiai amddiffyn fersiwn o orgraff yr iaith Gymraeg a seiliwyd ar yr orgraff a ddysfeisiwyd gan William Owen Pughe. Golygodd gyfrol o waith y bardd canoloesol Lewys Glyn Cothi.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Traethawd ar Gadwedigaeth yr Iaith Gymraeg (1820)
- (gol.) gyda Gwallter Mechain, Gwaith Lewys Glyn Cothi (1837)
- Gwaith Barddonawl (1859). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, gyda chofiant iddo gan ei nai Henry Roberts.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
- ↑ Foster, Joseph. Alumni Oxonienses: The Members of the University of Oxford, 1715-1886, tud 767
- ↑ Gwaith Barddonawl tud 132
- ↑ Edward Davies (Iolo Meirion), Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion, Caernarfon 1870 Tud 73
- ↑ Roberts, Henry; Gwaith barddonawl y diweddar Barch. John Jones, M.A., (Ioan Tegid), Llundain 1859. Rhagymadrodd bywgraffiadol tud xx