John Jones (Ioan Tegid)
clerigwr a llenor
(Ailgyfeiriad oddi wrth John Jones (Tegid))
Bardd, orthograffydd a gweinidog oedd John Jones (10 Chwefror 1792 – 2 Mai 1852), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol "Tegid" neu "Ioan Tegid". Fe'i ganed ac fe'i magwyd yn Y Bala yn yr hen Sir Feirionnydd, (de Gwynedd erbyn hyn).[1]
John Jones | |
---|---|
Ffugenw | Ioan Tegid ![]() |
Ganwyd | 10 Chwefror 1792 ![]() y Bala ![]() |
Bu farw | 2 Mai 1852 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd ![]() |
Adnabyddus am | A ballad by John Jones (Tegid), "Anffaeledigrwydd y Pab! ![]() |
Gwaith llenyddolGolygu
Ceisiai amddiffyn fersiwn o orgraff yr iaith Gymraeg a seiliwyd ar yr orgraff a ddysfeisiwyd gan William Owen Pughe. Golygodd gyfrol o waith y bardd canoloesol Lewys Glyn Cothi.[1]
LlyfryddiaethGolygu
- Traethawd ar Gadwedigaeth yr Iaith Gymraeg (1820)
- (gol.) gyda Gwallter Mechain, Gwaith Lewys Glyn Cothi (1837)
- Gwaith Barddonawl (1859). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, gyda chofiant iddo gan ei nai Henry Roberts.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).