John Mayall

cyfansoddwr a aned yn 1933

Roedd John Brumwell Mayall OBE (29 Tachwedd 1933 - 22 Gorffennaf 2024) yn gerddor blues a roc o Loegr. Roedd e'n gyfansoddwr caneuon ac yn gynhyrchydd hefyd.

John Mayall
GanwydJohn Brumwell Mayall Edit this on Wikidata
29 Tachwedd 1933 Edit this on Wikidata
Macclesfield Edit this on Wikidata
Bu farw22 Gorffennaf 2024 Edit this on Wikidata
Los Angeles, Califfornia Edit this on Wikidata
Label recordioDecca Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Prifysgol Fetropolitan Manceinion Edit this on Wikidata
Galwedigaethgitarydd, cyfansoddwr, pianydd, cyfansoddwr caneuon, canwr, artist recordio, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Arddullroc y felan, y felan, British blues, electric blues Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.johnmayall.com/ Edit this on Wikidata

Yn y 1960au, ffurfiodd John Mayall & the Bluesbreakers, band sydd wedi cyfrif ymhlith ei aelodau rai o gerddorion roc enwocaf y felan a'r blŵs, yn gynnwys Eric Clapton, Jack Bruce a Peter Green.

Cafodd ei eni ym Macclesfield, Swydd Gaer,[1][2] yn fab i'r cerddor Murray Mayall.

Aeth Mayall i Gorea fel rhan o'i wasanaeth cenedlaethol[3] . Prynodd ei gitâr drydan gyntaf tra yn Siapan ar wyliau. Ar ôl ei wasanaeth, astudiodd yng Ngholeg Celf Manceinion a dechreuodd chwarae gyda band lled-broffesiynol, y Powerhouse Four.[3] Ym 1963, dewisodd yrfa gerddorol amser llawn a symudodd i Lundain.[3]

Daeth John Mayall yn ganwr, gitarydd, chwaraewr harmonica, ac allweddellwr, roedd ganddo yrfa a oedd yn ymestyn dros bron i saith degawd, gan barhau i fod yn gerddor gweithgar hyd ei farwolaeth yn 90 oed. Fel “tad bedydd y felan Brydeinig”. Cafodd ei sefydlu yn Oriel Anfarwolion Roc a Rôl yn y categori dylanwad cerddorol yn 2024.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "UPI Almanac for Friday, Nov. 29, 2019" (yn Saesneg). United Press International. 29 Tachwedd 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 11 Ionawr 2020.
  2. "Pride of Manchester's guide to John Mayall" (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Mehefin 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 Colin Larkin, gol. (1995). The Guinness Who's Who of Blues (yn Saesneg) (arg. Ail). Guinness Publishing. t. 256/7. ISBN 0-85112-673-1.