John Nash

pensaer

Pensaer o Loegr a fu'n byw yng Nghymru am gyfnod oedd John Nash (18 Ionawr 175213 Mai 1835). Adeiladodd llawer o adeiladau enwog yn Llundain.

John Nash
Ganwyd18 Ionawr 1752 Edit this on Wikidata
Lambeth Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mai 1835 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
East Cowes Castle Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAll Souls Church, Langham Place, Clarence House, Pafiliwn Brighton, Marble Arch Edit this on Wikidata
Am y mathemategwr o Unol Daleithiau America gweler John Forbes Nash, Jr.

Cafodd ei eni yn Llundain ac astudiodd i fod yn bensaer o dan Syr Robert Taylor, ond heb fod yn llwyddiannus iawn. Ar ôl etifeddu ffortiwn mawr symudodd ef i Gymru. methodd a buddsoddi'n ddoeth a doedd dim arian ar ôl erbyn 1783. O ganlyniad bu rhaid iddo weithio eto fel pensaer gan gynllunio plastai yn y wlad, a chydweithio gyda Humphry Repton, cynllunydd gerddi tirlun. Aeth Nash yn ôl i weithio yn Llundain ym 1792.

Bu'n byw ar Ynys Wyth am flynyddoedd a chafodd ei gladdu yn Cowes.

Cerflun John Nash yn All Souls Church, Llundain

Gwaith yng Nghymru golygu

Aberaeron golygu

Cynorthwyodd John Nash i gynllun tref Aberaeron a chynlluniodd blasdy Llannerch Aeron (1794) ac eglwys Llanerchaeron yn nyffryn Aeron.

Eglwys Gadeiriol Tyddewi golygu

Cafodd Eglwys Gadeiriol Tyddewi ei difrodi'n ddifrifol gan Oliver Cromwell a chynllunodd John Nash y talcen gorllewinol.

Ffynnone golygu

Cynlluniodd ran o blasdy Ffynone (Ffynhonnau) yng Ngogledd Sir Benfro.

Gwaith yn Lloegr golygu

Llundain golygu

Yn ôl yn byw a gweithio yn Llundain, nodwyd ei waith gan y Rhaglyw Dywysog (yn hwyrach Brenin Siôr IV) a gorchymynnodd ef Nash i ddatblygu Parc Marylebone. Gan help llaw Repton datblygodd Nash master plan yr ardal sydd yn cynnwys Regent Street, Regent's Park a strydoedd ac adeiladau cain o gwmpas y rheini. Dechreuwyd adeiladu ym 1818, ond doedd dim pob cynllun adeilad gan Nash: roedd penseiri fel James Pennethorne a Decimus Burton yn gwneud llawer o'r waith hyn.

Roedd Nash yn cyfarwyddwr the Regent's Canal Company a sefydlwyd ym 1812 i adeiladu camlas o Lundain gorllewin i Afon Tafwys yn y dwyrain. Roedd Nash yn penderfynu ble adeladu'r gamlas, ond mae'r cynllun manwl gan James Morgan. Agorwyd rhan cyntaf y camlas ym 1816.

Prosiect mawr arall yn Llundain roedd ail-adeiladu Buckingham House i fod yn Buckingham Palace (1825–35) yn ogystal â darllunio'r Royal Mews a Marble Arch (symydwyd Marble Arch o'r Royal Mews i Stryd Rhydychen ym 1851).

Nifer o brosiectau enwog eraill:

Tu allan i Lundain golygu

Cyfeiriadau golygu