John Ormond

sgriptiwr, bardd (1923-1990)

Roedd John Ormond (19231990) yn fardd yn yr iaith Saesneg a chyfarwyddwr ffilm o dde Cymru.

John Ormond
Ganwyd1923 Edit this on Wikidata
Dynfant Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mai 1990 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Cholmondeley Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Ormond yn Nynfant, ger Abertawe, a chafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. Ymunodd â staff y cylchgrawn newyddion poblogaidd Picture Post yn 1945. Dychwelodd i'w fro yn 1949 ac, yn 1957, dechreuodd ar yrfa ddisglair gyda BBC Cymru fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau dogfen.

Dychwelodd Ormond i sgwennu barddoniaeth ganol y chwedegau, ar ôl dinistrio'r rhan fwyaf o'i gerddi cynnar. Cyhoeddwyd un o'i gyfrolau cyntaf Requiem and Celebration yn 1969, ac yn 1973 cyhoeddwyd Definition of a Waterfall gan Llyfrau Penguin yn ei gyfres Penguin Modern Poets. Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi yn 1987.

Roedd Ormond yn gyfaill i feirdd ac arlunwyr fel Dylan Thomas, y nofelydd Gwyn Thomas, yr arlunwyr Ceri Richards, Graham Sutherland, a Kyffin Williams, a'r cyfansoddwr Daniel Jones.

Cyfeiriadau

golygu