Picture Post
Roedd Picture Post yn gylchgrawn lluniau newyddion blaenllaw a gyhoeddwyd yn Lloegr o 1938 hyd 1957. Cafodd lwyddiant eithriadol o'r cychwyn cyntaf, gyda chylchrediad o 1,600,000 yr wythnos ar ôl chwe mis. Gellid ei gymharu i'r cylchgrawn Life yn yr Unol Daleithiau o ran deunydd ac apêl.
Enghraifft o: | papur newydd ![]() |
---|---|
Daeth i ben | 1957 ![]() |
Golygydd | Tom Hopkinson ![]() |
Cyhoeddwr | Hulton Press ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1938 ![]() |
Dechreuwyd | 1938 ![]() |
Daeth i ben | 1957 ![]() |
Prif bwnc | materion cyfoes ![]() |
Sylfaenydd | Edward George Warris Hulton ![]() |
Gwefan | http://www.gettyimages.com/EditorialImages/Archival/Hulton ![]() |

Ymysg ffotograffwyr Picture Post roedd Stanley Long, a aeth ymlaen i gynhyrchu nifer o ffilmiau sexploitation. Roedd gogwydd y golygyddol yn rhyddfrydol, yn wrth-Ffasgaidd ac yn boblogaidd.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hulton|Archive – History in Pictures Archifwyd 2013-05-27 yn y Peiriant Wayback History of Picture Post by the Archive Curator Sarah McDonald, 15/10/04. Adalwyd Mawrth 2008