Agor y brif ddewislen

Arlunydd o Gymro oedd Syr John Kyffin Williams (9 Mai 19181 Medi 2006) a adwaenyd fel Kyffin Williams.

Syr Kyffin Williams
Ganwyd John Kyffin Williams
(1918-05-09)9 Mai 1918
Llangefni, Ynys Môn
Bu farw 1 Medi 2006(2006-09-01) (88 oed)
Ynys Môn
Cenedl Cymro
Enwog am Tirluniau
Gwobrau RA (1974), OBE (1982), KBE (1999)
Bedd Kyffin Williams ym mynwent eglwys Llanfair-yng-Nghornwy, Môn

Cynnwys

BywgraffiadGolygu

Cafodd ei eni yn Llangefni, Ynys Môn. Methodd archwiliad meddygol i ymuno â'r Fyddin Brydeinig ym 1941 oherwydd ei gyflwr epilepsi, ac felly dywedodd ei feddyg wrtho i ymhêl â chelf. Cyn ei farwolaeth roedd nifer yn ei ystyried yn beintiwr olew Cymreig mwyaf ei oes. Ei hoff themâu oedd tirwedd a phobl ei ardal enedigol, ond ym 1968 fe aeth i Batagonia i gofnodi'r Wladfa Gymreig yn ei gelf. Cafodd ei ethol yn aelod o Academi Frenhinol y Celfyddydau ym 1976 ac fe'i urddwyd yn Farchog Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2000. Yn ei flynyddoedd olaf trigai Kyffin Williams ym Mhwllfanogl, Ynys Môn, lle y bu iddo farw o gancr yn 2006. Claddwyd ef ym mynwent Llanfair-yng-Nghornwy.

Cymynrodd Kyffin WilliamsGolygu

Ar ôl ei farwolaeth, gadawodd Kyffin ran helaeth o'i gasgliad i'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Roedd hyn yn cynnwys amryw o weithiau celf ei hun ynghŷd a gweithiau artistiaid yr oedd ef yn ei edmygu. Ynghyd a'i gasgliad, gadawodd dros £400,000 iddynt greu storfa penodol ynghyd a cyflogi staff i gatalogio a ddigido'r casgliad.

Yn 2008 cychwynodd brosiect Cymynrodd Kyffin Williams. Mae'r casgliad yn cynnwys "1200 o weithiau ar bapur, 200 darlun olew a thros 300 o brintiau gwreiddiol yn darlunio tirlun a phobl Cymru; archif gynhwysfawr yn cynnwys gohebiaeth, dyddiaduron a llawysgrifau, ynghyd â grŵp mawr o ffotograffau a sleidiau".[1]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

Dolenni allanolGolygu