John Owen Griffith (Ioan Arfon)

bardd a beirniad

Bardd a beirniad oedd John Owen Griffith (182822 Tachwedd 1881), a gyhoeddai ei waith wrth yr enw Ioan Arfon. Roedd yn dad i'r bardd Robert Arthur Griffith (Elphin).

John Owen Griffith
FfugenwIoan Arfon Edit this on Wikidata
Ganwyd1828 Edit this on Wikidata
Caernarfon, Y Trallwng Edit this on Wikidata
Bu farw22 Tachwedd 1881 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PlantRobert Arthur Griffith Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Brodor o Gaernarfon, Gwynedd, a aned yn 1828 oedd Griffith. Ym more ei oes aeth i weithio fel chwarelwr yn Llanberis. Ar ôl llwyddo i hel tipyn o bres, aeth i fyw yn nhref Caernarfon i gadw busnes.

Roedd yn ffigwr amlwg yn yr eisteddfodau, fel bardd a beirniad, ac enillodd sawl cadair a thlws. Roedd yn adnabod y bardd Owen Wynne Jones (Glasynys), a chyfansoddodd farwnad iddo pan fu farw'r llenor yn 1870. Bardd telynegol oedd Ioan Arfon, fel nifer o'i gydoeswyr, ac mae naws sentimentalaidd, pruddglwyfus i lawer o'i gerddi yn ôl safon yr oes hon.

Llyfryddiaeth

golygu

Golygodd waith Robert Elis (Cynddelw).

Cyfeiriadau

golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.